polisi preifatrwydd
1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni’n ei wneud.
Mae Fostercwmtaf yn garfan recriwtio rhieni maeth sy’n rheoli pob ymholiad sy’n gysylltiedig â maethu ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Mae ein carfan recriwtio ranbarthol yn rheoli pob ymholiad ynglŷn â maethu sy’n cael eu derbyn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful hyd at y pwynt pan mae darpar ymgeiswyr yn cael eu dyrannu i’w hasesu.
Mae rhagor o wybodaeth am y camau i ddod yn rhiant maeth yn https://www.fostercwmtaf.co.uk/Cy/CouldIFoster/Stagestobecomeafostercarer.aspx
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni’n ei chadw ac am bwy?
P’un a ydych chi’n gwneud ymholiadau neu’n dymuno gwneud cais i ddod yn rhiant maeth byddwn ni’n prosesu gwybodaeth amdanoch chi, eich partner – unrhyw un yn eich cartref a fydd yn rhan o’r broses.
Gall hyn gynnwys:
Gwybodaeth bersonol – enw, dyddiad geni, cyfeiriad, manylion cyswllt (rhif ffôn / cyfeiriad e-bost), cyflogaeth, gwybodaeth am eich teulu/perthnasoedd a phartneriaid blaenorol.
Gwybodaeth categori arbennig – unrhyw broblemau iechyd sydd gyda chi, eich ethnigrwydd, euogfarnau troseddol blaenorol ac unrhyw gysylltiad blaenorol â’r gwasanaethau cymdeithasol.
3. O ble mae’r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Byddwn ni’n casglu’r wybodaeth gennych chi, pan fyddwch chi’n gwneud eich cais/ymholiad.
4. Beth fyddwn ni’n ei wneud gyda’ch gwybodaeth bersonol?
Byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ymateb i’ch ymholiad.
Os byddwch chi’n penderfynu parhau â’ch cais i ddod yn rhiant maeth, byddwn ni’n ymweld â’ch cartref a chasglu rhagor o wybodaeth gennych chi i’n helpu ni i benderfynu a ydych chi’n addas.
Efallai byddwn ni’n monitro eich galwadau ffôn chi i ni, neu ein galwadau ni i chi.
5. Beth yw’r sail gyfreithiol o ran defnyddio’r wybodaeth yma?
Mae’r ddeddf Diogelu Data yn nodi ein bod ni’n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.
Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu ymholiadau a cheisiadau gan ddarpar rieni maeth yw er mwyn cydymffurfio â:
Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018 https://www.legislation.gov.uk/cy/wsi/2018/1339/contents/made/welsh
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 https://www.legislation.gov.uk/cy/anaw/2014/4/contents/enacted/welsh
Deddf Plant 1989
https://www.legislation.gov.uk/cy/ukpga/1989/41/contents
Deddf Plant 2004
https://www.legislation.gov.uk/cy/ukpga/2004/31/contents
6. Ydy’r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?
Ni fydd y garfan recriwtio maethu yn rhannu’ch gwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu’n fewnol gyda’r garfan asesu maethu i bennu eich addasrwydd i ddod yn rhiant maeth.
Os bydd ein hymweliad cychwynnol yn llwyddiannus a’ch bod chi’n cael eich gwahodd i symud ymlaen i asesiad llawn, gofynnir ichi lenwi ffurflen gais. Yn ystod y cam yma bydd ein carfan asesu maethu yn gofyn ichi roi caniatâd i’ch gwybodaeth bersonol gael ei rhannu â sefydliadau eraill sy’n rhan hanfodol o’ch asesiad llawn. Byddech chi’n cael rhagor o wybodaeth am y sefydliadau yma pe byddech chi’n symud ymlaen i gael asesiad llawn.
7. Am ba mor hir caiff fy ngwybodaeth ei chadw?
Byddwn ni’n cadw’ch gwybodaeth cyhyd ag y byddwn ni’n rheoli eich ymholiad.
Os ydyn ni o’r farn eich bod chi’n addas i gael eich asesu byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth nes bod yr asesiad wedi dod i ben. Os byddwch chi’n penderfynu peidio â symud ymlaen i gael eich asesu, byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth ar ein cronfa ddata am 12 mis o’r dyddiad y caiff eich ymholiad ei gau.
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
Mae’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae’r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i’w defnyddio nhw.
9. Cysylltu â ni
Rydyn ni’n croesawu eich sylwadau ynghylch y Datganiad Preifatrwydd yma. Os ydych chi o’r farn dydy Fostercwmtaf.co.uk ddim wedi cadw at y Datganiad yma, cysylltwch â ni:
Drwy anfon e-bost at [email protected]
Dros y ffôn: 01443 425007
Drwy ysgrifennu at fostercwmtaf.co.uk, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ.