pam maethu gyda ni?

cefnogaeth a manteision

cyllid a lwfansau

Fel Gofalwr Maeth gyda’ch tîm Maethu Cymru Merthyr Tudful, byddwch yn derbyn lwfansau ariannol hael. Rydyn ni’n cyfrifo’r rhain yn seiliedig ar nifer o ffactorau, fel y math o faethu rydych chi’n ei wneud, faint o blant rydych chi’n eu maethu, ac am ba hyd.

Er enghraifft, mae rhai Gofalwyr Maeth ym Merthyr Tudful yn derbyn rhwng £12,584 a £39,520 y flwyddyn ar hyn o bryd.

manteision eraill

Mae ein gofalwyr maeth yn mwynhau mwy o fanteision nag y byddech chi’n ei feddwl. Yn ogystal â’r gefnogaeth a’r lwfansau y soniwyd amdanyn nhw eisoes, ym Merthyr Tudful, byddwch hefyd yn cael y canlynol:

  • Cynllun cymhelliant y Dreth Gyngor. Bydd yr holl ofalwyr maeth cymeradwy gyda Maethu Cymru Merthyr Tudful sy’n cael lwfans ychwanegol yn cael taliad cymhelliant o 50% tuag at eu bil treth gyngor.
  • Os ydych chi’n gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac yn maethu ar ein rhan mae ein Cynllun Maethu yn golygu y byddwch chi’n cael hyd at 5 diwrnod o absenoldeb ychwanegol gyda thâl wrth fynd drwy’r asesiad a 5 diwrnod ychwanegol y flwyddyn ar ôl cael eich cymeradwyo, er mwyn mynychu hyfforddiant, adolygiadau CLA ac ymateb i anghenion y plentyn.
  • Aelodaeth hamdden am ddim i’r gofalwr maeth a’i deulu cyfan, sy’n golygu eu bod yn gallu defnyddio campfeydd, dosbarthiadau a phyllau nofio’r Awdurdod Lleol.
  • Cefnogaeth a mentora gan ofalwyr maeth profiadol drwy ein cynllun Arloeswyr Gofal Maeth.
  • Ystod eang o gyfleoedd dysgu a datblygu sy’n cael eu darparu mewn ffyrdd hyblyg gan gynnwys e-ddysgu, podlediadau, deunyddiau darllen a gweithdai, gyda swyddog hyfforddi amser llawn yn arbennig ar gyfer ein gofalwyr maeth ni.

ymrwymiad cenedlaethol maethu cymru

A dim dyna’r cyfan! Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru, gan ein cynnwys ni, wedi ymrwymo i’r hyn rydyn ni’n ei alw yn Ymrwymiad Cenedlaethol. Pecyn o fanteision, hyfforddiant a chefnogaeth y cytunwyd arno yw hwn, sydd ar gael i bob un o’n gofalwyr maeth yng Nghymru. Felly, fel pob gofalwr maeth Maethu Cymru arall, byddwch yn elwa o’r canlynol:

Three siblings throwing a ball to each other in the park

un tîm

Mae tîm Maethu Cymru Merthyr Tudful yn gweithio gyda chi, eich plant maeth a phob gweithiwr proffesiynol sy’n ymwneud â’u gofal, fel rhan o un gwasanaeth cyflawn. Rydych chi’n rhan ganolog o’r tîm hwn, sy’n golygu y byddwch chi bob amser yn cael eich cynnwys, eich gwerthfawrogi a’ch parchu.

Drwy ddod yn rhan o’n tîm, rydych chi’n ymuno â’r rheini sy’n gyfrifol yn y pen draw am bob plentyn mewn gofal yng Nghymru, a byddwch yn helpu plant i aros yn yr ardaloedd lleol y maen nhw’n eu hadnabod a’u caru. Dyna sy’n ein gwneud ni’n unigryw.

Mum and two children preparing to go outside

dysgu a datblygu

Fyddwch chi byth yn teimlo eich bod chi’n aros yn llonydd. Rydyn ni’n eich helpu chi i dyfu, gyda chyfleoedd hyfforddi a datblygu pwrpasol. Mae’r fframwaith a’r gwasanaethau ar gyfer eich twf personol yn gyson ledled Cymru, felly rydych chi’n elwa o becyn cymorth sydd wedi cael ei ystyried, ei brofi ac sy’n cael ei rannu.

Rydyn ni’n addo darparu’r holl offer a’r hyfforddiant sydd eu hangen arnoch chi i’ch galluogi i ddiwallu anghenion y plant yn eich gofal yn llawn.

Mae’r cynllun hwn yn cydnabod yr holl sgiliau a phrofiadau trosglwyddadwy gwerthfawr a oedd gennych chi ar y dechrau, ac mae’n cynllunio llwybr i adeiladu arnyn nhw.

A family walking together in front of a castle

cefnogaeth

Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae gennych chi dîm maethu Merthyr Tudful gyda chi, yn eich cefnogi a’ch annog chi bob cam o’r ffordd.

Rydyn ni’n dathlu buddugoliaethau bach gyda chi, rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd, ac rydyn ni’n gwrando.

Byddwch chi’n cael eich gwahodd i ymuno ag amrywiaeth o grwpiau cefnogi lleol, a chwrdd â gofalwyr maeth eraill. Dyma lle byddwch chi’n rhannu profiadau, yn datblygu eich rhwydwaith ac yn gwneud ffrindiau newydd. O grwpiau cefnogi i ddynion sy’n maethu i fathau arbenigol o ofalwyr maeth, fe welwch gymunedau newydd yma. Pobl sy’n deall.

Mae cefnogaeth broffesiynol ar gael hefyd. Fel rhan o’r gwasanaeth rydyn ni’n ei gynnig, bydd gennych chi weithiwr cymdeithasol proffesiynol medrus a phrofiadol wrth law. Ar eich cyfer chi, eich teulu a’ch rhwydwaith cyfan.

Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio fel tîm gyda’n gofalwyr maeth, ac mae hynny’n golygu bod wrth law 24/7. Beth bynnag y byddwch chi ei angen, pryd bynnag y bydd ei angen arnoch – hyd yn oed y tu allan i oriau swyddfa. Byddwn ni yno.

A young girl playing Uno with her sibling

y gymuned faethu

Rydyn ni yma i chi – rydyn ni’n cadw mewn cysylltiad.

Mae bod yn ofalwr maeth yn golygu ymuno â chymuned, ac rydyn ni’n cadw mewn cysylltiad gyda digwyddiadau rheolaidd. Byddwch chi’n cael eich gwahodd i bob math o ddigwyddiadau a gweithgareddau a fydd yn dod â chi’n nes at deuluoedd maeth eraill. Mae’n golygu mwynhau profiadau newydd a chreu atgofion newydd, gyda’n gilydd.

Byddwch hefyd yn gallu cael gafael ar ddigonedd o wybodaeth a chyngor ar-lein. Fyddwch chi byth yn teimlo eich bod ar eich pen eich hun.

Fel gofalwr maeth Maethu Cymru, byddwch chi’n dod yn aelod o’r Rhwydwaith Maethu (TFN) a Chymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA) Cymru. Mae’r sefydliadau maethu arbenigol hyn yn cynnig pob math o gymorth a chyngor annibynnol, a dyna pam eu bod yn dod fel mater o drefn – a byddwn ni’n talu.

A family standing by a sign in the park

llunio’r dyfodol

Rydyn ni’n edrych yn ein blaenau – i’r dyfodol gorau posibl y gallwn ei greu. Rydyn ni’n gwybod fod taith pob plentyn tuag at ofal maeth yn bwysig, ond eu teithiau newydd yw lle y gall newid ddigwydd.

Fel gofalwr maeth, rydych chi’n gwneud y newidiadau cadarnhaol sydd eu hangen ar y plant hyn. Mae eich rôl yn hanfodol, ac rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig ydych chi. Oherwydd hyn, rydyn ni’n dymuno sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed bob amser – yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. – Nid yn unig hynny, ond bydd eich barn yn effeithio ar sut rydyn ni’n symud ymlaen. Byddwch yn cael cyfleoedd i ymgynghori a dylanwadu ar ddyfodol maethu yng Nghymru, yn ogystal â chael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn rydyn ni’n ei wneud.

cymryd y cam cyntaf

cysylltu â’n tîm maethu cymru lleol

  • Cyngor Merthyr Tudful yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Merthyr Tudful yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.