ffyrdd o faethu

pwy all faethu

pwy all faethu ym merthyr tudful?

Mae pob teulu maeth yn unigryw, oherwydd mae pob plentyn yn wahanol. Mae gofalwyr maeth ym Merthyr Tudful yn adlewyrchu ein tref, gydag amrywiaeth o gefndiroedd, diwylliannau a hunaniaethau gwahanol.

Yn ein cymuned leol, mae yna blant sydd angen rhywun i wrando arnyn nhw. Gofalu amdanyn nhw, a chredu ynddyn nhw. Rhywun fel chi – p’un ai ydych chi’n berchen ar dŷ neu’n rhentu, p’un ai ydych chi’n briod neu’n sengl, beth bynnag yw eich ethnigrwydd, eich hunaniaeth o ran rhywedd a’ch cyfeiriadedd rhywiol.

O ran ein gofalwyr maeth, rydyn ni’n dathlu eu hamrywiaeth. Rydyn ni’n credu bod tîm ehangach a mwy amrywiol yn rhywbeth cadarnhaol iawn. Mae hyn oherwydd mai eich sgiliau a’ch profiad yw’r pethau pwysicaf.

Ydych chi’n dal i fod yn ansicr a yw maethu yn addas i chi? Daliwch ati i ddarllen i gael gwybod.

mythau maethu: gwahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen

Efallai fod Merthyr Tudful yn ardal gymharol fach, ond mae gennyn ni gymysgedd bywiog ac amrywiol o deuluoedd maeth yma yn ein cymuned leol.

O ran pwy sy’n gallu maethu, y prif gwestiwn rydyn ni’n ei ofyn yw: allwch chi wneud gwahaniaeth, ac ydych chi eisiau gwneud hynny?

Efallai y bydd gennych chi gwestiynau eraill am bwy sy’n gallu maethu. Os felly, daliwch ati i ddarllen i ddysgu mwy.

alla i faethu os ydw i’n gweithio’n llawn amser?

Mae rhai o’n gofalwyr maeth wedi ymddeol, ond mae rhai eraill yn gweithio’n llawn amser. Felly, os ydych chi’n gweithio, peidiwch â meddwl y bydd hyn yn eich rhwystro rhag bod yn ofalwr maeth. Efallai y bydd angen cefnogaeth ychwanegol arnoch gan eich teulu a’ch ffrindiau.

Dydy swydd llawn amser ddim o angenrheidrwydd yn rhwystr. Ond, mae’n rhywbeth y gallai fod angen ei ystyried ymhellach. Er enghraifft, efallai mai maethu rhan amser fyddai orau i chi.

Byddwch chi hefyd yn elwa o’n tîm lleol o weithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol profiadol, sydd i gyd yno i’ch cefnogi chi.

alla i fod yn ofalwr maeth os ydw i’n byw mewn llety rhent?

Os ydych chi’n berchen ar dŷ neu’n rhentu, y prif gwestiwn rydyn ni’n ei ofyn yw: ydych chi’n teimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus yn lle rydych chi’n byw? Oherwydd os felly, byddai plentyn yn teimlo felly hefyd.

Meddyliwch amdano fel hyn. Gallai eich ystafell sbâr gael ei defnyddio i storio, neu gallai fod yn wag y rhan fwyaf o’r amser. Neu, gallai fod y lle diogel sydd ei angen ar blentyn er mwyn tyfu a dod y fersiwn gorau ohono’i hun.

alla i faethu os oes gen i blant fy hun?

Mae gan lawer o’n gofalwyr maeth eu plant eu hunain, ac mae’r profiad o gael brawd neu chwaer faeth yn un arbennig. Mae’n dysgu empathi, trugaredd a gofal – ac mae’r rhain yn sgiliau gwerthfawr sy’n para am oes.

Mae gofalu am blant maeth yn golygu ychwanegu at eich teulu a charu a gofalu am fwy o bobl.

ydw i’n rhy hen i faethu?

Does dim terfyn oedran uchaf ar gyfer maethu. Mae rhai o’n gofalwyr maeth yn gweld bod eu rolau’n ychwanegu ystyr a gwerth at eu hymddeoliad, tra bod gan eraill blant ifanc eu hunain, swyddi a chyfrifoldebau eraill ochr yn ochr â maethu.

Dydy oedran ddim yn rhwystr, ac ym mha bynnag gyfnod o fywyd rydych chi ynddo, byddwch chi’n elwa o’r un gefnogaeth a hyfforddiant lleol ac arbenigol. Rydyn ni’n darparu popeth sydd ei angen arnoch i’ch paratoi ar gyfer y daith o’ch blaen.

ydw i’n rhy ifanc i faethu?

Does dim terfyn oedran isaf ar gyfer maethu chwaith. Fel gofalwr maeth iau, efallai y bydd yr hyn rydych chi’n ei gynnig ychydig yn wahanol, ond mae yr un mor werthfawr – yr egni, yr angerdd a’r brwdfrydedd sydd gennych chi yw’r union beth sydd ei angen ar blentyn lleol.

Felly, er bod profiad bywyd yn fantais fawr, peidiwch â meddwl na allwch chi fod yn rhan o’r teulu maethu fel gofalwr iau. Gyda’n rhwydwaith cefnogi, gallwch chi deimlo’n hyderus a mwynhau’r daith, beth bynnag fo’ch oedran.

a oes rhaid i gyplau sy’n maethu fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil?

Gallwch chi faethu os ydych chi'n sengl; dydy hyd eich perthynas ac a ydych chi’n briod neu mewn partneriaeth sifil ddim yn amod ar gyfer maethu.

Mae angen sefydlogrwydd ar blant, felly’r prif beth i’w ystyried yw a ydych chi’n gallu cynnig hyn. Os felly, gallwch chi faethu.

alla i faethu os ydw i’n drawsryweddol?

Gallwch. Dydy eich rhywedd ddim yn dylanwadu o gwbl ar eich gallu i fod yn ofalwr maeth gwych – beth sy’n bwysig yw eich natur garedig a llawn gofal, eich sgiliau unigryw a’ch ymroddiad i’r daith sydd o’ch blaen.

alla i faethu os ydw i’n hoyw?

Rydyn ni’n trysori ein gofalwyr maeth LGBT+. Mae’r penderfyniad i faethu yn ymwneud â’ch ymrwymiad i fod y person sy’n gwrando ac sy’n gofalu, rhywun sy’n cynnig lle diogel i blentyn. Dydy eich cyfeiriadedd rhywiol ddim yn ffactor o ran gwireddu hyn.

alla i faethu os oes gen i gi neu gath?

Rydyn ni’n cydnabod bod anifeiliaid anwes yn deulu hefyd, a dyna pam ein bod ni’n cynnwys pob anifail anwes yn eich asesiad gofalwr maeth. Fel unrhyw aelod arall o’r teulu, rydyn ni’n edrych ar sut bydden nhw’n cyd-dynnu ag unrhyw blant maeth yn y dyfodol.

Yn sicr, dydy anifeiliaid anwes ddim yn rhwystr rhag bod yn ofalwr maeth – maen nhw’n gallu cynnig gwahanol fath o gariad a chefnogaeth.

alla i faethu os ydw i’n ysmygu?

Gallwch chi faethu os ydych chi’n ysmygu, ond gall olygu bod rhai plant yn gweddu’n well i chi na phlant eraill. Byddwn ni’n gweithio gyda chi i ddod o hyd i’r ffordd orau ymlaen.

Os yw rhoi’r gorau i ysmygu yn rhywbeth yr hoffech chi ei gyflawni, gallwn ni hefyd gynnig cefnogaeth ac arweiniad i’ch helpu.

alla i faethu os ydw i’n ddi-waith?

Dydy gweithio ddim yn amod i fod yn ofalwr maeth. Yn y pen draw, rydyn ni’n gwybod bod gwaith yn gallu bod yn gyfnewidiol.

Mae bod yn rhiant maeth gwych yn golygu bod ar gael i gynnig cefnogaeth, arweiniad a chariad bob dydd – dyna beth sy’n bwysig. Felly, os ydych chi’n ddi-waith ar hyn o bryd, rydyn ni’n croesawu eich cais i fod yn ofalwr maeth. Byddwn ni’n gweithio gyda chi i wneud yn siŵr bod yr amseru’n iawn, ac i weld beth sydd orau i’ch amgylchiadau unigryw chi.

alla i faethu os nad oes gen i dŷ mawr?

Y cwbl sydd ei angen arnoch chi i faethu plentyn yw ystafell sbâr a chalon agored. Boed eich cartref yn fawr neu’n fach – fflat neu rywle mwy – mae gennych chi’r hyn sydd ei angen i wneud gwahaniaeth.

Wedi’r cwbl mae pob cartref maeth yn wahanol, a dyna sut dylai fod.

rhagor o wybodaeth am faethu

A family walking together in front of a castle

mathau o faethu

Mae nifer o ffyrdd o wneud gwahaniaeth. Gall maethu olygu diwrnod, wythnos, blwyddyn neu fwy.

dysgwch mwy
A young girl in the park

cwestiynau cyffredin

Sut mae maethu’n gweithio a sut beth yw hyn o ddydd i ddydd? Mae’r atebion i amrywiaeth o gwestiynau ar gael yma.

dysgwch mwy
A young girl in a yellow raincoat smiling

manteision a chefnogaeth

Mae maethu yn fwy manteisiol na fyddech chi’n ei feddwl. Dysgwch beth rydyn ni’n ei gynnig ym Merthyr Tudful.

dysgwch mwy

cysylltwch

  • Cyngor Merthyr Tudful yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Merthyr Tudful yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.