sut mae'n gweithio
sut mae’n gweithio
sut mae’n gweithio
Dydy maethu ym Merthyr Tudful ddim yn rôl ynysig. Mae’n ymwneud â chysylltiad a chymuned.
Ein tîm bach ond pwysig yw eich rhwydwaith ymroddedig, sy’n cynnig cefnogaeth ac arbenigedd, ddydd a nos, pryd bynnag y bydd angen hynny arnoch chi..
gwell gyda’n gilydd
Rydyn ni’n ymwybodol o werth gweithio gyda’n gilydd. Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi a dyna rydyn ni’n ei wneud – rydyn ni yma i’r plant yn ein gofal, i’w teuluoedd maeth ac i’r gweithwyr proffesiynol medrus sy’n gweithio gyda ni bob dydd.
Dim ond am ein bod ni’n rhan o Maethu Cymru y gallwn gynnig lefel mor uchel o gefnogaeth. Mae’r rhwydwaith cenedlaethol hwn yn gydweithrediad o 22 o fudiadau nid-er-elw: pob Awdurdod Lleol yng Nghymru, yn gweithio gyda’i gilydd i greu dyfodol gwell i’r plant yn ein gofal. Mae’n golygu bod popeth yn mynd i’n gwneud ni’n well yn beth rydyn ni’n ei wneud. Er mwyn rhoi mwy lle mae ei angen fwyaf.
beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?
Mae ein gofalwyr maeth wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud. Rydyn ni’n rhoi pobl o flaen elw, bob amser, ac mae hynny’n golygu ystyried beth sydd orau i’r plant yn ein gofal, a’r bobl anhygoel sy’n rhan o’u teuluoedd maeth. Rhan o hyn yw aros yn lleol, a chadw plant yn y llefydd a’r cymunedau maen nhw’n eu hadnabod ac yn eu caru. Pan fydd hynny’n iawn iddyn nhw, byddwn ni wastad yn ceisio cynnal y cysylltiadau pwysig – ffrindiau, clybiau cymdeithasol, teulu estynedig – sy’n golygu cymaint.
Rydyn ni’n gwybod bod dal gafael ar y pethau hyn yn gallu helpu plant i gynnal eu hymdeimlad o hunaniaeth. Dydy pob asiantaeth faethu ddim yn gallu blaenoriaethu hyn, ond fel sefydliad nid-er-elw, rydyn ni’n gallu.
Yn y pen draw, mae’n ymwneud â deall, gofalu a gwneud yr hyn sydd orau i bob plentyn unigol. Ac fel rhiant maeth gyda Maethu Cymru, chi sy’n gwneud hynny’n bosibl.