maethu ym merthyr tudful

cydweithio i adeiladu gwell dyfodol i blant lleol

A lady at a recruitment event for foster wales holding up a gift bag

cwrdd â'r garfan!

dewch i gael sgwrs gyda ni am faethu

Dewch i gwrdd â ni yn unrhyw un o'r digwyddiadau hyn dros yr haf...

helo Merthyr!

maethu ym merthyr tudful

Rydyn ni’n credu ym mhwysigrwydd cymuned, rhannu arbenigedd a chydweithio i greu dyfodol gwell i’r plant sydd yn ein gofal.

Ni yw Maethu Cymru Merthyr Tudful, ac rydyn ni’n un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru sy’n darparu eich gwasanaeth maethu cenedlaethol.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

mwy o straeon

meddwl am faethu ym merthyr tudful? dysgu mwy:

A family walking together in front of a castle
pwy all faethu?

Mae pob plentyn yn wahanol a bydd angen rhywbeth gwahanol ar bob un – gofalwr maeth unigryw. Rhywun fel chi.

dysgwch mwy
A young girl in a yellow raincoat smiling
cwestiynau cyffredin

Sut mae maethu’n gweithio a ble allai’r daith fynd â chi? Mae’r atebion ar gael yma.

dysgwch mwy

pam maethu gyda ni?

Mae maethu’n golygu gwneud gwahaniaeth go iawn, y funud hon, i blant lleol. Gyda ni, mae hefyd yn golygu cael y gefnogaeth a’r arweiniad gorau gan rwydwaith cenedlaethol enfawr o bobl o’r un anian.

Er mwyn cydweithio i greu dyfodol gwell i blant lleol, rydyn ni’n darparu popeth sydd ei angen arnoch chi i fod y gofalwr maeth gorau y gallwch chi fod – gan gynnwys manteision hael. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

sut mae’n gweithio

Sut mae cymryd y cam cyntaf tuag at fod yn ofalwr maeth a beth allwch chi ei ddisgwyl? Bydd maethu yn newid eich bywyd. Bydd yn eich herio ac yn eich gwobrwyo. Ydych chi’n barod?

A family looking at the plants in a park
y broses

Dysgwch sut mae dechrau ar eich taith faethu, a beth sy'n digwydd nesaf.

learn more
A brother and sister playing Uno together
cefnogaeth a manteision

Tîm bach lleol ydyn ni, ond rydyn ni’n rhan o rywbeth mwy. Rydyn ni gyda chi gyda’r holl gymorth sydd ei angen arnoch chi. Rydyn ni yma i chi, pryd bynnag y mae ein hangen ni arnoch chi.

learn more

dod yn ofalwr maeth

Mae dod yn ofalwr maeth ym merthyr tudful yn haws nag yr ydych yn ei feddwl. Os ydych chi’n meddwl tybed sut mae dechrau arni, cysylltwch â ni heddiw.

  • Cyngor Merthyr Tudful yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Merthyr Tudful yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.