ffyrdd o faethu

mathau o faethu

mathau o ofal maeth

Yn ei hanfod, mae gofal maeth yn golygu darparu cartref. Lle i fyw, teimlo’n ddiogel, cael hwyl a thyfu. Mae gwahanol fathau o ofal maeth ond mae hyn yn gyffredin i bob un ohonyn nhw.

Mae maethu’n gallu golygu unrhyw beth o aros dros nos, i arhosiad mwy parhaol. Mae pob plentyn yn wahanol, a dyna pam fod cymaint o ffyrdd o faethu – rydyn ni’n darparu’r union beth sydd ei angen.

gofal maeth tymor byr

Four siblings have fun playing Uno together

Mae tymor byr yn derm ymbarél – mae’n gallu golygu gofalu am blentyn am awr, am ddiwrnod, am fis neu am flwyddyn o bosibl. Mae gofalwyr maeth tymor byr yn cynnig sefydlogrwydd cyhyd ag y bydd angen, hyd nes y gallwn ni sicrhau lleoliad ‘tymor hir’ – sy’n cael ei alw weithiau’n ‘sefydlogrwydd’.

Mae’n golygu eich bod chi yno i gynnig cefnogaeth, ond hefyd i helpu’r plant i gymryd y cam nesaf yn eu bywyd. Lle gwell nag yr oedden nhw ynddo o’ch blaen chi. Gallai hyn olygu dychwelyd at eu teulu, byw gyda theulu maeth newydd, neu gael eu mabwysiadu.

A family walking together in front of a castle

Dydy seibiant byr ddim yn golygu rôl fach. Rydych chi’n chwarae rhan fawr yn nhaith y plentyn, oherwydd yn aml chi yw’r cam cadarnhaol cyntaf tuag at ddyfodol disglair.

gofal maeth tymor hir

A family looking at things in the park

Mae gofalwyr maeth tymor hir yn cynnig sefydlogrwydd. Teulu newydd a chefnogol i blant sydd ddim yn gallu byw gartref.

Three siblings throwing a ball to each other

Mae llawer o feddwl a gofal yn mynd tuag at baru plant â chartrefi maeth tymor hir. Mae gofal maeth tymor hir yn golygu cysylltu’r plentyn maeth iawn â’r gofalwr iawn am gyhyd ag y bydd eich angen chi arno. Mae hefyd yn golygu cynnig diogelwch. Cartref, ac oedolyn, y gallan nhw ddibynnu arnyn nhw.

mathau arbenigol o ofal maeth

Mae maethu tymor byr a thymor hir yn cwmpasu pob math o ofal maeth, gan gynnwys rhai mathau mwy arbenigol, sydd angen math penodol o gymeradwyaeth ar eu cyfer. Gallai’r rhain gynnwys...

Mum and two children preparing to go outside

seibiant byr

Mae maethu tymor byr a thymor hir yn cwmpasu pob math o ofal maeth, gan gynnwys rhai mathau mwy arbenigol, sydd angen math penodol o gymeradwyaeth ar eu cyfer. Gallai’r rhain gynnwys…

Mae seibiant bach yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr, pan fydd plant yn cael ychydig o amser oddi wrth eu teulu. Gallai hynny fod am ddiwrnod, dros nos neu ar benwythnosau. Mae’n golygu cael seibiant bach, yn ddiogel.

Mae cyfnodau seibiant byr yn cael eu cynllunio ymlaen llaw a gallan nhw fod yn ddigwyddiadau rheolaidd. Fel gofalwr maeth seibiant byr, gallwch chi gynnig profiadau newydd gwerthfawr a phleserus. Rydych chi’n ymuno â theulu’r plentyn, a ni, i wneud gwahaniaeth – bod yn rhan o’r teulu estynedig a gweithio gyda nhw i. wneud y gorau i’r plentyn.

A brother and sister playing Uno together

rhiant a phlentyn

Weithiau, dydy rhieni ddim yn barod i fod ar eu pen eu hunain. Gyda’r lleoliadau hyn, rydych chi’n gofalu am y rhiant a’r plentyn – gan rannu profiadau gwerthfawr â rhywun sydd wir angen y gefnogaeth. Rydych chi’n datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw, iddyn nhw eu hunain ac i’w plentyn. Mae’n golygu meithrin y genhedlaeth nesaf er mwyn i unigolion y genhedlaeth nesaf allu gwneud yr un peth.

A young girl playing Uno with her sibling

gofal therapiwtig

Mae angen math gwahanol o ofal ar rai plant, a dyna lle mae gofalwyr maeth therapiwtig yn chwarae rhan. Mae’r math hwn o ofal maeth yn helpu plant sydd ag anghenion emosiynol neu ymddygiadol mwy cymhleth i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Yn gyfnewid am hynny, rydyn ni’n cynnig lefel ychwanegol o arweiniad a chefnogaeth i’w teuluoedd maeth.

photo of a teenage boy

ffoaduriaid ifanc

Mae ffoaduriaid ifanc yn cyrraedd y DU ar eu pen eu hunain neu wedi’u gwahanu oddi wrth eu teulu yn ystod y daith – yn chwilio am ddiogelwch a dechrau newydd. Mae mwy na 100 o’r ffoaduriaid ifanc hyn yn cyrraedd Cymru bob blwyddyn.

Rydyn ni’n falch o fyw mewn gwlad gynhwysol ac amrywiol sy’n gofalu am bob plentyn yng Nghymru. Rydym angen teuluoedd ym Merthyr a all gynnig cymorth, sefydlogrwydd ac arweiniad i ffoaduriaid ifanc wrth iddynt ailddarganfod eu hannibyniaeth mewn gwlad newydd.

Os gallwch chi eu cefnogi nhw, gallwn ni eich cefnogi chi.

Beth bynnag yw eich cefndir a’ch sefyllfa gartref, os oes gennych rywbeth i’w gynnig i ffoadur ifanc neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, siaradwch â ni yma.

cysylltwch

  • Cyngor Merthyr Tudful yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Merthyr Tudful yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.