polisi preifatrwydd

1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni’n ei wneud.

Mae maethu cymru Merthyr Tudful yn garfan recriwtio rhieni maeth sy’n rheoli pob ymholiad sy’n gysylltiedig â maethu ar gyfer  Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Mae ein carfan recriwtio ranbarthol yn rheoli pob ymholiad ynglŷn â maethu sy’n cael eu derbyn gan  Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful hyd at y pwynt pan mae darpar ymgeiswyr yn cael eu dyrannu i’w hasesu.

Mae rhagor o wybodaeth am y camau i ddod yn rhiant maeth yn y broses

2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni’n ei chadw ac am bwy?

P’un a ydych chi’n gwneud ymholiadau neu’n dymuno gwneud cais i ddod yn rhiant maeth byddwn ni’n prosesu gwybodaeth amdanoch chi, eich partner – unrhyw un yn eich cartref a fydd yn rhan o’r broses.

Gall hyn gynnwys:

Gwybodaeth bersonol – enw, dyddiad geni, cyfeiriad, manylion cyswllt (rhif ffôn / cyfeiriad e-bost), cyflogaeth, gwybodaeth am eich teulu/perthnasoedd a phartneriaid blaenorol.

Gwybodaeth categori arbennig – unrhyw broblemau iechyd sydd gyda chi, eich ethnigrwydd, euogfarnau troseddol blaenorol ac unrhyw gysylltiad blaenorol â’r gwasanaethau cymdeithasol.

3. O ble mae’r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Byddwn ni’n casglu’r wybodaeth gennych chi, pan fyddwch chi’n gwneud eich cais/ymholiad.

4. Beth fyddwn ni’n ei wneud gyda’ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ymateb i’ch ymholiad.

Os byddwch chi’n penderfynu parhau â’ch cais i ddod yn rhiant maeth, byddwn ni’n ymweld â’ch cartref a chasglu rhagor o wybodaeth gennych chi i’n helpu ni i benderfynu a ydych chi’n addas.

Efallai byddwn ni’n monitro eich galwadau ffôn chi i ni, neu ein galwadau ni i chi.

Efallai y proseswn eich data personol i gyflawni ein rhwymedigaethau, a gall hyn gynnwys prosesu eich data personol ar gyfer un neu’r cyfan o’r dibenion canlynol:

  • Prosesu atgyfeiriad argymell ffrind a gwobrwyo’r atgyfeiriwr
  • I anfon cylchlythyrau e-bost atoch gyda’ch caniatâd optio i mewn
  • Creu proffil gofalwr maeth ar-lein i’w rannu gyda phlant/pobl ifanc pan gewch eich cymeradwyo fel gofalwr maeth

5. Beth yw’r sail gyfreithiol o ran defnyddio’r wybodaeth yma?

Mae’r ddeddf Diogelu Data yn nodi ein bod ni’n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu ymholiadau a cheisiadau gan ddarpar rieni maeth yw er mwyn cydymffurfio â:

Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018 https://www.legislation.gov.uk/cy/wsi/2018/1339/contents/made/welsh

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 https://www.legislation.gov.uk/cy/anaw/2014/4/contents/enacted/welsh

Deddf Plant 1989

https://www.legislation.gov.uk/cy/ukpga/1989/41/contents

Deddf Plant 2004

https://www.legislation.gov.uk/cy/ukpga/2004/31/contents

6. Ydy’r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Ni fydd y garfan recriwtio maethu yn rhannu’ch gwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu’n fewnol gyda’r garfan asesu maethu i bennu eich addasrwydd i ddod yn rhiant maeth.

Os bydd ein hymweliad cychwynnol yn llwyddiannus a’ch bod chi’n cael eich gwahodd i symud ymlaen i asesiad llawn, gofynnir ichi lenwi ffurflen gais. Yn ystod y cam yma bydd ein carfan asesu maethu yn gofyn ichi roi caniatâd i’ch gwybodaeth bersonol gael ei rhannu â sefydliadau eraill sy’n rhan hanfodol o’ch asesiad llawn. Byddech chi’n cael rhagor o wybodaeth am y sefydliadau yma pe byddech chi’n symud ymlaen i gael asesiad llawn.

7. Am ba mor hir caiff fy ngwybodaeth ei chadw?

Byddwn ni’n cadw’ch gwybodaeth cyhyd ag y byddwn ni’n rheoli eich ymholiad.

Os ydyn ni o’r farn eich bod chi’n addas i gael eich asesu byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth nes bod yr asesiad wedi dod i ben. Os byddwch chi’n penderfynu peidio â symud ymlaen i gael eich asesu, byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth ar ein cronfa ddata am 12 mis o’r dyddiad y caiff eich ymholiad ei gau.

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae’r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i’w defnyddio nhw.

9. Sut a phryd y byddwn yn cysylltu â chi

Byddwn yn cysylltu â chi ar ôl i chi wneud ymholiad.

Byddwn yn anfon cylchlythyrau e-bost atoch, gyda’ch caniatâd optio i mewn, pan fyddwch yn tanysgrifio i’n newyddion Maethu Cymru.

10. Cysylltu â ni

Rydyn ni’n croesawu eich sylwadau ynghylch y Datganiad Preifatrwydd yma. Os ydych chi o’r farn dydy Fostercwmtaf.co.uk ddim wedi cadw at y Datganiad yma, cysylltwch â ni:

Drwy anfon e-bost: [email protected]

Dros y ffôn: 01443 425007

Drwy ysgrifennu; maethu cymru merthyr tudful, Civic Centre, Castle Street, Merthyr Tydfil, CF47 8AN