sut mae'n gweithio

y broses

y broses

Rydych chi ar fin cychwyn ar eich taith, ond pa mor hir mae’r broses faethu yn ei chymryd ym Merthyr Tudful, a beth allwch chi ei ddisgwyl?

A young girl in a yellow raincoat smiling

y cam cyntaf

Allai’r cam cyntaf tuag at fod yn ofalwr maeth yn ein tref ddim bod yn haws. Mae’n dechrau gyda’ch ymholiad cychwynnol. Drwy lenwi’r ffurflen gyswllt isod, ein ffonio ni neu drwy anfon e-bost, rydych chi’n cychwyn ar eich taith. Efallai nad yw’n teimlo’n llawer ar hyn o bryd. Cam bach iawn. Ond mae’n un hynod bwysig.

A man and woman standing together with arms around each other outside their home

yr ymweliad cartref

Ar ôl gwneud eich ymholiad, byddwch chi’n clywed gennyn ni – fel arfer o fewn un diwrnod gwaith. Dyna pryd y byddwn ni’n dechrau dod i’ch adnabod chi.

Yna, fe ddown ni i ymweld â chi yn eich cartref. Neu, os na fydd hyn yn bosibl, byddwn yn trefnu ymweliad rhithiol (fideo) yn lle hynny. Dyma sut gallwn ni ddechrau meithrin perthynas â chi, dechrau deall y bobl sydd bwysicaf i chi, a dysgu ble rydych chi’n ei alw’n gartref.

Three siblings throwing a ball to each other

yr hyfforddiant

Rydyn ni’n dechrau datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau yn gynnar. Mae’r cwrs hyfforddi cyntaf hwn yn digwydd dros dri diwrnod ac mae’n cael ei alw’n “Sgiliau Maethu”, neu weithiau’n “Paratoi i faethu”.

Byddwch chi’n dysgu llawer am faethu, a bydd hyn yn eich helpu i wneud yn siŵr mai dyma’r llwybr iawn i chi. Byddwch chi’n creu llawer o gysylltiadau newydd hefyd. Yn ogystal â chwrdd ag aelodau o dîm Maethu Cymru Merthyr Tudful, byddwch chi’n cwrdd â gofalwyr maeth eraill sydd hefyd yn cychwyn ar eu taith.

A family walking together in the park

yr asesiad

Peidiwch â meddwl am hwn fel prawf. Mae’n broses raddol, sy’n golygu dysgu popeth am beth fydd maethu’n ei olygu i chi, a chasglu’r holl wybodaeth y gallwn ni. Mae’n gyfle i chi a’ch teulu ddysgu mwy am beth mae bod yn ofalwr maeth yn ei olygu. Gofyn cwestiynau, mawr neu fach, a thrafod unrhyw beth a allai fod ar eich meddwl.

Mae asesiadau’n dangos sut mae eich teulu’n gweithio, gyda’i holl gryfderau a’i wendidau, ac maen nhw’n cael eu cynnal gan weithwyr cymdeithasol medrus. Mae popeth rydyn ni’n ei ddysgu yn helpu i greu darlun o sut gallai eich dyfodol maethu edrych.

A brother and sister having fun playing Uno together

y panel

Mae’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu yn yr asesiad yn mynd i’r panel. Dydy’r grŵp hwn o bobl ddim yn bodoli i roi golau coch neu olau gwyrdd i chi – yn hytrach, maen nhw’n gwneud argymhellion ynghylch pa fath o faethu fyddai orau i chi.

Mae gan bob tîm Maethu Cymru banel sy’n cynnwys gweithwyr gofal cymdeithasol ac aelodau annibynnol. Maen nhw’n wybodus ac yn brofiadol iawn, ac maen nhw’n edrych ar bob darpar ofalwr maeth fel unigolyn.

A young boy looking into the camera

y cytundeb gofal maeth

Ar ôl i’r panel maethu gyfarfod a darparu ei argymhellion, byddwch chi’n cael y cytundeb gofal maeth. Mae hwn yn nodi’n union beth mae bod yn ofalwr maeth yn ei  olygu – mae’n cynnwys eich cyfrifoldebau bob dydd ynghyd â’r holl gefnogaeth ac arweiniad ehangach y byddwch yn eu darparu.

Mae’r cytundeb hefyd yn chwarae rôl bwysig mewn amlinellu popeth rydyn ni’n ei gynnig fel eich asiantaeth faethu: cyfleoedd hyfforddi, manteision, a’n hymroddiad i gynnig yr holl gefnogaeth a’r arweiniad sydd eu hangen arnoch chi.

ydych chi’n barod i gymryd y cam cyntaf?

cysylltwch

  • Cyngor Merthyr Tudful yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Merthyr Tudful yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.