pam maethu gyda ni?

pam dewis ni?

pam ein dewis ni?

Dim eich asiantaeth faethu safonol yw Maethu Cymru Merthyr Tudful. Rydyn ni’n rhwydwaith cysylltiedig o 22 o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

Pam ein dewis ni? I ddechrau, rydyn ni’n sefydliad nid-er-elw. Mae hynny’n golygu nad arian yw ein hagenda – rydyn ni’n poeni am yr hyn sydd orau i’r plant yn ein gofal a’r teuluoedd maeth sy’n eu cefnogi, cyn unrhyw beth arall.

Fel un tîm mawr, mae Maethu Cymru wedi ymrwymo i’r nod o greu dyfodol gwell i blant lleol. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy fuddsoddi popeth sydd gennyn ni i mewn i sgiliau a datblygiad ein gofalwyr maeth, y plant eu hunain, a’r gymuned leol.

A brother and sister having fun playing Uno together

ein cenhadaeth

Yn ddaearyddol, efallai fod Merthyr Tudful yn fach. Ond o fewn ein cymuned, mae yna blant sydd ein hangen ni, ac sydd eich angen chi hefyd.

Maen nhw’n fabanod, yn blant bach, yn bobl ifanc yn eu harddegau, yn frodyr a chwiorydd ac yn rhieni ifanc. Mae gan bob un ohonyn nhw eu stori unigryw eu hunain, ond yr hyn maen nhw’n ei rannu yw rhwydwaith maethu sy’n cadw llygad arnyn nhw i sicrhau’r dyfodol gorau posibl.

Three siblings throwing a ball to each other

ein cefnogaeth

Dydyn ni ddim yn sefydliad pell. Rydyn ni’n agos atoch chi, yn rhan o’r gymuned, ac mae hynny’n golygu bod gennych chi’r holl gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi. O alwadau ffôn i gyngor gan ein harbenigwyr, ni yw eich rhwydwaith cefnogi lleol.

Sut bynnag y byddwch chi’n datblygu yn eich rôl fel gofalwr maeth, byddwn ni gyda chi bob cam o’r ffordd. Mae ein harbenigedd, ein cyngor a’n hyfforddiant ar gael i chi. Beth bynnag sydd ei angen arnoch chi, byddwn ni yno.

A family looking at things in the park

ein ffyrdd o weithio

Rydyn ni’n ymwybodol o werth cydweithio – mae cysylltu a chydweithio wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud. Rydyn ni’n cadw mewn cysylltiad.

Rydyn ni gyda chi, yn rhan o wead y gymuned. Wedi ymrwymo i fod yno, i chi ac i’r plant sydd yn ein gofal.

Mae pob un yn unigolyn gydag anghenion unigryw. Mae ein gofalwyr maeth yn unigryw hefyd, ac ein rôl ni yw eu helpu i fod y gorau y gallen nhw fod, drwy fod yn nhw eu hunain. Rydyn ni’n cydnabod eu talentau a’u profiad presennol, ac rydyn ni’n adeiladu ar y rhain wrth i’w taith faethu fynd yn ei blaen.

A boy playing Uno and smiling

eich dewis

Eich dewis chi yw maethu, ac mae dewis yr asiantaeth faethu gywir yn benderfyniad pwysig arall. Drwy ddewis Maethu Cymru, rydych chi’n dewis ymuno â rhwydwaith o bobl sydd wedi buddsoddi ynoch chi ac mewn gwneud y gwahaniaeth mwyaf posibl. Pobl hyfforddedig ac ymroddedig sy’n deall realiti bywyd yn eich cymuned.

Cymerwch y cam cyntaf tuag at fod yn ofalwr maeth – cysylltwch â ni heddiw.

cysylltwch heddiw

  • Cyngor Merthyr Tudful yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Merthyr Tudful yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.