ffyrdd o faethu
eisoes yn maethu?
eisoes yn maethu?
Pobl, dim elw, sy’n bwysig i Maethu Cymru. Ein pwrpas yw cefnogi a grymuso gofalwyr maeth, a gwneud ein gorau dros bob plentyn yn ein gofal.
Efallai eich bod chi eisoes yn maethu gyda ni a ddim yn ymwybodol. Os ydych chi’n maethu gyda’ch Awdurdod Lleol, mae hynny’n golygu eich bod yn rhan o Maethu Cymru. Mae pob un o 22 o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol yng Nghymru wedi dod at ei gilydd fel tîm cenedlaethol, sy’n ffurfio Maethu Cymru.
Os nad ydych chi’n maethu gydag Awdurdod Lleol, mae trosglwyddo at ein tîm yn haws nag rydych chi’n ei feddwl. Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod.

sut i drosglwyddo
Dim ond un cam syml mae’n ei gymryd: cysylltwch â thîm Maethu Cymru Merthyr Tudful heddiw.
Byddwn yn dod i’ch adnabod chi ac yn gweld sut gallai maethu gyda ni weithio i chi. Os byddwch chi’n penderfynu bwrw ymlaen â’r newid, byddwn ni’n gwneud popeth y gallwn ni i’ch cefnogi chi trwy’r broses.

pam trosglwyddo
Ni, fel yr Awdurdod Lleol, sy’n bennaf gyfrifol am bob plentyn ym Merthyr Tudful sydd angen gofalwr maeth. Felly, ein hangerdd yn ogystal â’n pwrpas ni yw darparu’r gofal a’r cymorth arbenigol sydd ei angen – ar gyfer plant lleol, yn ogystal â’u teuluoedd maeth.
Gyda hyfforddiant pwrpasol, cyfoeth o wybodaeth a chefnogaeth pryd bynnag y bydd eu hangen arnoch chi, rydyn ni’n eich grymuso i fod y gorau y gallwch chi fod. Rydyn ni wedi ymrwymo i gynnig y gwasanaeth gorau, ac fel sefydliad nid-er-elw, rydych chi’n gwybod bod yr holl gyllid rydyn ni’n ei dderbyn yn mynd tuag at y diben hwnnw.
Hoffech chi ymuno â ni? Dewch i gael rhagor o wybodaeth am y manteision a’r gefnogaeth rydyn ni’n eu cynnig.