Yn Maethu Cymru Merthyr rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi pob un o’n gofalwyr maeth a’u profiad o faethu. Rydyn ni wrth ein bodd yn clywed am eu teithiau, eu uchafbwyntiau a’u hisafbwyntiau, eu profiadau. Mae’n rhoi cyfle i bobl sydd efallai’n meddwl am faethu glywed am realiti’r hyn y mae maethu yn ei olygu.
Mae pob stori yn wahanol. Mae pob gofalwr maeth yn wahanol. Ac mae pob plentyn yn wahanol. Ond dyma sy’n gwneud ein tîm ym Merthyr mor arbennig.
Mae Lisa a Mike wedi bod mor garedig â rhannu eu stori gyda ni, yn y gobaith y bydd eraill yn ystyried maethu fel rhywbeth y gallen nhw ei wneud.
Faint o amser gymerodd hi i benderfynu maethu?
“Cymerodd ein stori flynyddoedd lawer i esblygu. Ar ôl blynyddoedd o amheuaeth, a hyd yn oed pendroni a fydden ni’n cael ein cymeradwyo fel gofalwyr, rydyn ni’n cael ein hunain bellach wedi maethu ers dros 5 mlynedd bellach – ac rydyn ni wedi mwynhau pob eiliad!
Roedd y broses o faethu wedi ein rhwystro am flynyddoedd, ond mewn gwirionedd, roeddem yn poeni am ddim byd.
Gall deimlo’n ymwthiol, ond yn ddealladwy mae’n angenrheidiol bod y broses i ddod yn ofalwr maeth yn un drylwyr.”
Bu Lisa a Mike yn ystyried maethu am rai blynyddoedd cyn cymryd eu cam cyntaf. Gallai maethu fod yn rhywbeth rydych chi wedi bod yn meddwl amdano ers tro, neu gallai fod yn rhywbeth nad ydych erioed wedi’i ystyried o’r blaen ond sy’n teimlo’n iawn i chi. Beth bynnag fo’ch amgylchiadau mae bob amser yn werth darganfod mwy, a chlywed profiad pobl eraill o faethu.
Os yw maethu yn rhywbeth rydych chi wedi bod yn meddwl amdano, ond fel Lisa a Mike rydych chi’n ansicr ynglŷn â’r broses asesu, beth am alw draw i flog defnyddiol Maethu Cymru Sir y Fflint am sut brofiad yw cael eich asesu fel gofalwr maeth.
Sut ydych chi’n delio gyda dweud hwyl fawr wrth blant rydych wedi eu maethu?
“Rydym wedi maethu 5 set o blant, gan gynnwys 2 o grwpiau brodyr a chwiorydd. Ni allwn gymryd arno ei bod bob amser yn hawdd gofalu am y plant, a rhan o faethu yw eu gweld yn gadael! Fodd bynnag, y tu hwnt i’r tristwch o ffarwelio, mae’n gymaint o fraint ac yn bleser gweld teulu’n cael ei greu (drwy fabwysiadu) neu deuluoedd yn cael eu haduno (y plentyn/plant yn gallu dychwelyd at eu teulu biolegol).
Rydyn ni’n dal yn bositif gan wybod ein bod ni wedi gwneud gwahaniaeth i fywyd y plentyn/plant, a’u bod nhw’n symud ymlaen i gartref sefydlog.”
Mae yna lawer o wahanol fathau o faethu, a phlant, sydd angen cartref. Efallai bod gennych chi ddigon o le yn eich cartref i groesawu brodyr a chwiorydd i mewn, i’w cadw gyda’i gilydd. Neu efallai bod gennych brofiad gyda phlant ag anghenion ychwanegol, neu eich bod yn arbennig o dda gyda phobl ifanc yn eu harddegau. Mae mwy o wybodaeth ar ein tudalen mathau o faethu.
Mae maethu wedi bod yn bositif i ni a’n teulu
“Efallai ein bod ni’n lwcus, ond rydyn ni wedi cynnal perthynas ar ryw lefel neu’i gilydd gyda phob plentyn rydyn ni wedi gofalu amdano. Rydyn ni i gyd yn cymryd rhan. Mae maethu yn ehangu ein teulu i bwynt na fyddem byth wedi gallu ei ddychmygu.”
Yn Maethu Cymru Merthyr, rydym bob amser yn chwilio am bobl garedig, ymroddedig a hoffai wybod mwy am faethu. Pobl fel Lisa a Mike.
Os yw’n rhywbeth y gwyddoch yr hoffech ei wneud, neu hyd yn oed os yw’n rhywbeth yr hoffech ychydig mwy o wybodaeth amdano, llenwch ein ffurflen ymholiad a byddwn mewn cysylltiad cyn gynted â phosibl.
Os ydych yn byw yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru lle mae’r holl wybodaeth ar gael a chysylltu â’ch gwasanaeth awdurdod lleol.