Beth yw Pythefnos Gofal Maeth?
Ymgyrch blynyddol i geisio sicrhau bod rhagor o bobl yn effro i ofal maeth, i amlygu sut mae maethu yn gwella bywydau ac annog pobl i ddysgu rhagor am faethu.
Y bwriad yw helpu cynifer o bobl ag sy’n bosib i ddeall yr angen am rieni maeth. Rydyn ni’n awyddus i bobl ddeall gwerth maethu i blant a’r effaith gadarnhaol mae’n ei chael ar eu dyfodol nhw.
Eleni mae Pythefnos Gofal Maeth yn digwydd rhwng 9 a 22 Mai.
Pam mae Pythefnos Gofal Maeth yn bwysig?
Mae yna lawer o blant a phobl ifanc sydd angen harbwr diogel.
Mae Pythefnos Gofal Maeth yn codi ymwybyddiaeth am yr angen am rieni/teuluoedd maeth. Mae’r achlysur yn arddangos angerdd, ymroddiad ac ymrwymiad ein rhieni maeth cyfredol a’r mathau o bobl hoffen ni gael sgwrs â nhw.
Mae’r straeon a glywch yn y newyddion am faethu yn aml yn negyddol, ond nid yw maethu yn negyddol! Mae Pythefnos Gofal Maeth yn helpu i daflu goleuni ar y straeon anhygoel am bobl go iawn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a straeon llwyddiant teuluoedd maeth Cymru a phlant sy’n derbyn gofal.
Beth yw thema Pythefnos Gofal Maeth 2022?
Thema eleni yw #CymunedauMaethu er mwyn arddangos cryfder a chydnerthedd pawb sy’n ymwneud â maethu.
Mae bod yn rhan o’r gymuned faethu yn rhoi ymdeimlad o berthyn ac yn rhwydwaith o bobl o’r un anian. Mae’r Pythefnos Gofal Maeth yn dathlu pawb sy’n rhan o’r gymuned faethu, a’r ffyrdd rydyn ni’n cydweithio i sicrhau diogelwch ac yn gofalu am blant lleol.
Sut i ddod yn rhan o bethau
Darllenwch, rhannwch, casglwch wybodaeth!
Trwy gydol y Pythefnos Gofal Maeth (a thu hwnt) rydyn ni’n eich annog chi i ddysgu am faethu a sut beth yw dod yn rhieni maeth yn eich Awdurdod Lleol chi. Mae dod yn rhieni maeth yn golygu ymrwymo i wneud pethau sy’n fuddiol i’r plant, mewn ardal maen nhw’n gyfarwydd â hi. Mae Maethu Cymru Merthyr yn sefydliad di-elw. Rydyn ni’n gwneud yr hyn sy’n fuddiol i’r plant mewn gofal a’r sawl sy’n eu cefnogi nhw.
Efallai y byddwch chi’n synnu wrth glywed pwy sy’n gallu maethu, er enghraifft does dim rhaid ichi fod yn briod na mewn perthynas. Does dim rhaid i chi berchen ar dŷ. Does dim ots os oes gennych chi anifeiliaid anwes. Mae adran gyfan yn llawn cwestiynau cyffredin, ond cysylltwch â ni os hoffech chi ragor o wybodaeth.
Mae’r Rhwydwaith Maethu wedi trefnu ‘Taith Gerdded Maethu‘, sef taith gerdded wedi’i noddi felly ymunwch os hoffech chi fod yn rhan o achlysur a chodi ymwybyddiaeth.
Y bwriad yw cerdded dros 5 miliwn o gamau er mwyn cydnabod y 70,000 o blant sy’n derbyn gofal maeth yn y DU.
Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol yn ystod y Pythefnos Gofal Maethu Facebook @FosterWalesMerthyr a Twitter @Foster_CwmTaf.
Gallwch hefyd ddefnyddio #FCF22 a #FosteringCommunities ar gyfryngau cymdeithasol i ymuno â’r sgwrs.
Hoffwch, rhannwch a rhowch sylwadau i ledaenu’r neges am y plant, rhieni maeth, gweithwyr cymdeithasol a’r gymuned faethu yma yn Merthyr.
Os ydych yn byw yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru lle mae’r holl wybodaeth ar gael a chysylltu â’ch gwasanaeth awdurdod lleol.