mathau o faethu

rhiant a phlentyn

beth yw maethu rhiant a phlentyn?

Gyda’r math hwn o faethu, byddwch yn croesawu rhiant a’u plentyn i’ch cartref. Rydych yn helpu i gadw teuluoedd gyda’i gilydd, ac yn addysgu sgiliau newydd, gan ddarparu clust i wrando a meithrin eu perthynas.

Nod y math arbenigol hwn o faethu yw i chi ofalu am riant sydd wir angen cymorth, fel y gallant ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt, yn bersonol ac ar gyfer eu plentyn.

dad and baby

pwy all gael ei faethu?

Weithiau gelwir maethu rhieni a phlant yn ‘lleoliad maeth mam a babi’ oherwydd, yn y rhan fwyaf o achosion, mae angen y rhain ar gyfer mamau ifanc sydd ar fin neu newydd roi genedigaeth.

Ond nid yw hyn bob amser yn wir.

Gallai maethu rhiant a phlentyn olygu darparu lle diogel i dad a’i fabi, mam hŷn neu blentyn bach neu weithiau i’r ddau riant gyda’i gilydd, gyda’u plentyn.

mother and baby

pwy all fod yn ofalwr maeth?

Mae pob plentyn yn wahanol, ac mae angen rhiant maeth gwahanol arnynt hefyd. Yn Maethu Cymru, rydym yn dathlu amrywiaeth ein gofalwyr maeth.

Fodd bynnag, er mwyn maethu mam a babi, bydd angen i chi fod yn hyderus a bod yn brofiadol gyda phlant ifanc. Nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i chi fod â phlant biolegol eich hun, ond mae’n rhaid eich bod yn gallu gofalu am fabi ar eich pen eich hun ac addysgu rhywun arall i wneud hynny. Bydd angen i chi fod yn bresennol drwy’r amser.

young mother and baby

Fel y rhan fwyaf o faethu, rhaid i chi gael ystafell sbâr gartref. Dylai hyn fod yn ddigon mawr i ddarparu ar gyfer y rhiant a’r plentyn gan gynnwys gwely, cot, a dodrefn arall fel bwrdd newid.

mother and baby

pa mor hir mae lleoliadau maeth rhiant a phlentyn yn parhau?

Fel arfer, bydd rhiant a phlentyn yn aros gyda chi am 12 wythnos, tra bod asesiad yn cael ei gwblhau ar eu gallu i fagu plant. Er y gellir ymestyn hyn os oes angen ychydig mwy o amser a chefnogaeth ar y rhiant.

Gall lleoliad maethu mam a babi barhau’n hirach os yw’r fam yn ymuno â chi cyn iddi roi genedigaeth.

Gallai canlyniad llwyddiannus fod i’r rhiant a’r plentyn symud i mewn gyda’r teulu, i fathau eraill o fyw â chymorth, neu fyw’n annibynnol, wedi’u paratoi’n dda ar gyfer eu rôl fel mam neu dad.

mother and baby

a oes lwfansau maethu mam a babi?

Cefnogi rhiant a babi newydd mewn angen yw’r prif reswm pam mae llawer o bobl yn dewis dod yn ofalwr maeth rhiant a phlentyn, ond bydd arian yn eich helpu i ddarparu’r diogelwch a’r arweiniad hwn. Felly, rhoddir lwfans i bob gofalwr am bob person yn eu gofal ochr yn ochr â’u lwfansau maethu a budd-daliadau eraill y gallai’r awdurdod lleol eu cynnig.

mother and baby

Get In Touch

  • Merthyr Tydfil Council is the data controller for the personal information you provide on this form. Your information will be used in the exercise of our official authority and will not be used for any other purpose. We will not share your data with third parties unless we are required or permitted to do so by law. Data protection law describes the legal basis for our processing your data as necessary for the performance of a public task. For further information about how Merthyr Tydfil Council uses your personal data, including your rights as a data subject, please see our privacy notice.