Rydyn ni’n gwybod y gall yr adeg hon o’r flwyddyn fod yn gyffrous i rai plant, ond yn peri pryder i eraill. Efallai y bydd rhai rhieni’n ysu i’r plant fynd yn ôl i’r ysgol, ac efallai y bydd eraill yn teimlo unigrwydd neu’n poeni bod eu plant yn dychwelyd. Mae modd iddo fod yn gyfnod anodd, yn enwedig eleni wrth i ysgolion geisio dychwelyd i drefn fwy arferol 18 mis i mewn i’r pandemig. Mae yna bryderon ymarferol hefyd i lawer ohonom – cael gwisg, deunydd ysgrifennu, llechi a bagiau. A pheidiwch ag anghofio – mae rhaid i rywun ddechrau gwneud yr holl becynnau cinio eto!
Felly, dyma rannu rhai syniadau i deuluoedd adeg yma’r flwyddyn. Y gobaith yw y byddan nhw’n ddefnyddiol ichi – beth am ychwanegu’ch awgrymiadau eich hun o dan y neges?
1. Byddwch yn barod am newidiadau mewn ymddygiad
Mae modd i blant iau gymryd cam yn ôl wrth ddysgu sut i fwydo’u hun neu ddefnyddio’r poti, ac mae rhai plant eisiau bod gyda’u rhieni drwy’r amser. Efallai na fyddan nhw eisiau mynd i’r ysgol a byddan nhw’n ymddwyn yn y ffyrdd canlynol; gwrthod gwisgo, dweud eu bod nhw’n dost, yn mynd yn dawedog neu’n grac. Mae’r rhain yn ymatebion arferol i blant, yn enwedig y rhai sy’n bryderus ynghylch dychwelyd i’r ysgol. I lawer, fe allai siarad â nhw a dangos iddyn nhw eich bod chi’n gyffrous drostyn nhw a dweud wrthyn nhw am yr holl bethau cadarnhaol am fynd yn ôl i’r ysgol fod yn ddigon i dawelu eu meddyliau. Serch hynny, os yw’r ymddygiadau’n parhau am fwy nag ychydig wythnosau neu’n gwaethygu, efallai yr hoffech chi ofyn am help. Os yw’ch plentyn yn tynnu’n ôl o’i weithgareddau arferol ac i weld ei fod dan straen, efallai dyma’r sbardun sydd ei angen arnoch chi i ofyn am gymorth gan yr ysgol neu weithwyr proffesiynol eraill.
2. Paratowch y plant ar gyfer dychwelyd i’w rwtîn arferol
Os ydy’ch plant wedi mynd i’r gwely’n hwyrach dros y gwyliau, mae’n bosibl y bydd amser gwely cynharach, ac amser deffro cynharach yn eu helpu. Efallai bydd cynnwys y plant mewn penderfyniadau fel dewis eu dillad, bagiau, esgidiau ac adnoddau yn helpu i’w cyffroi. Syniad arall yw ymarfer cerdded i’r ysgol a dweud ffarwél yn y bore, neu ddilyn llwybr y car neu’r bws i’r ysgol yn y bore a chyfarwyddo’ch plentyn gyda’r hyn sy’n mynd i ddigwydd, yn enwedig os ydyn nhw’n dechrau mewn ysgol newydd.
3. Gofynnwch i rieni eraill neu grwpiau lleol am arweiniad
Mae llawer o grwpiau cymunedol lleol yn bodoli i helpu rhieni i ddod o hyd i wisg ysgol. Mae dwy fantais fawr i’r cynlluniau hyn – llai o ddillad yn cael eu taflu, a does dim angen gwario gymaint o arian ar wisg ysgol. Os gofynnwch chi i rieni eraill neu chwilio ar grwpiau Facebook lleol, gan gynnwys canolfannau cymuned ac eglwysi, mae’n bosibl y dewch chi o hyd i bobl sy’n cynnig gwisg ysgol sydd fwy neu lai’n newydd sbon, ac adnoddau ysgol. Mae hyn yn arbennig o wir yn dilyn y flwyddyn ddiwethaf, lle’r oedd plant yn cael eu haddysgu gartref ac felly mae gan nifer o bobl wisgoedd ysgol sydd erioed wedi’u defnyddio nad oes eu hangen nhw mwyach. Os nad yw cynllun fel hwn yn bodoli ar gyfer eich ysgol neu’ch cymuned – efallai y gallech chi ddod â chriw o bobl at ei gilydd i sefydlu un?
Mae Merthyr Tudful hefyd yn cynnig grant i helpu teuluoedd ar incwm isel i brynu gwisg ac offer ysgol. Rhagor o wybodaeth yma: https://www.merthyr.gov.uk/resident/benefits-and-grants/school-clothing-grants/
4. Derbyn yr emosiynau
Efallai mai chi sy’n teimlo’n ddagreuol pan fydd y tŷ’n wag eto, neu efallai bydd hi’n rhyddhad enfawr i chi i gael rhyw fath o rwtîn yn ei le eto. Mae’n debygol y bydd gan eich plant deimladau cryf hefyd ynglŷn â mynd yn ôl i’r ysgol – yn enwedig eleni!
Os yw’ch plant wedi cynhyrfu, wrth gwrs byddwch chi eisiau cymryd y baich hwnnw oddi arnyn nhw – ond mae’n helpu os ydych chi’n cymryd cam yn ôl ac yn eu hannog i geisio datrys y broblem eu hunain. Y cam cyntaf yw siarad â nhw – beth maen nhw’n ei deimlo? Mae’n bwysig derbyn eu hemosiynau a sut maen nhw’n teimlo yn hytrach na dweud wrthyn nhw eu bod nhw’n anghywir – gadewch iddyn nhw wybod eich bod chi eisiau helpu ac y byddwch chi’n gwrando arnyn nhw. Unwaith y byddwch chi’n gwybod beth yw pryderon eich plant, mae modd ichi ofyn iddyn nhw sut allwch chi helpu? Beth mae modd iddyn nhw ei wneud er mwyn ei gwneud hi’n haws dychwelyd i’r ysgol? Oes ffrindiau gyda nhw a allai eu helpu i ddod i’r arfer â’r rwtîn ysgol unwaith eto? Oes modd i ffrind, brawd neu chwaer, neu riant eu helpu gyda gwaith gartref os mai dyna sy’n peri pryder? Efallai bydd dod o hyd i nifer o gamau bach i’w cymryd i wneud pethau’n haws yn rhoi rhagor o hyder iddyn nhw, yn eu helpu i deimlo bod modd iddyn nhw reoli’r sefyllfa a lleihau eu pryderon
5. Cynlluniwch ambell i ddiwrnod arbennig
Efallai gallwch gynllunio diwrnodau arbennig ym mis Medi i’r teulu cyfan. Partïon ar y penwythnos, ymweliadau â theulu a ffrindiau, ymweliadau â’r parc neu atyniadau lleol. Efallai bydd edrych ymlaen at bethau eraill yn helpu i wneud y syniad o ailgydio yn y rwtîn ysgol yn haws ymdopi ag ef.
Os yw lefel y straen yn parhau i fod yn uchel gartref, y peth gorau i chi ei wneud yw mynd mas i ymlacio yn yr awyr agored. Efallai ei fod yn swnio’n rhyfedd, ond gallai mynd allan am dro fod o gymorth mawr. Mae ymarfer corff ysgafn a bod mewn lleoliad gwahanol yn dda i’n cyrff pan rydyn ni dan straen ac yn helpu i’n hymlacio. Mae’r un peth yn wir i oedolion a phlant, felly gallwch chi fynd â’ch plant allan am dro ac mae hefyd yn rhoi cyfle da i siarad â nhw a darganfod beth sy’n achosi pryder iddyn nhw. Ffordd arall i dawelu’ch meddwl ar unwaith yw ymarfer anadlu dwfn. Mae rheoleiddio anadlu ag anadliadau hir i mewn ac allan yn tawelu’r corff a’r meddwl ar unwaith. Un ffordd o gael plant i wneud hyn yw gyda swigod. Os oes gyda chi rai wrth law, chwythwch swigod i helpu pawb i ganolbwyntio ar eu hanadlu ac ymlacio.
Rydyn ni’n mawr obeithio bod hynny’n helpu, ac os oes gennych chi unrhyw syniadau, rhannwch nhw isod.
Cysylltwch â Maethu Cymru Merthyr
Os ydych yn byw yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru lle mae’r holl wybodaeth ar gael a chysylltu â’ch gwasanaeth awdurdod lleol.
Byw yn Merthyr? Anfonwch neges atom a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y medrwn.