sut rydyn ni’n eich cefnogi chi ym Merthyr

cymorth a lwfans

sut rydyn ni’n eich cefnogi chi

Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi. Mae hynny’n golygu y byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i’ch helpu i roi cartref sefydlog a chariadus i blentyn maeth.

Hyd yn oed cyn i blentyn gyrraedd, mae Maethu Cymru Merthyr yn darparu arweiniad a hyfforddiant manwl i wneud yn siŵr bod maethu yn addas i chi a’ch teulu. Ond dyw’r cymorth ddim yn dod i ben yno.

Unwaith eich bod yn maethu plentyn, rydyn ni’n cynnig:

  • arweiniad parhaus gan weithiwr cymdeithasol dynodedig
  • tâl maethu i dalu costau byw hanfodol
  • cymuned o deuluoedd maeth lleol sy’n gallu rhannu profiadau
  • cyfeillgarwch a digwyddiadau cymdeithasol
  • gostyngiad o 100% yn y Dreth Gyngor
  • a llawer mwy o fuddion
Mae’n bwysig ystyried yr holl fuddion lleol er mwyn cael gwell dealltwriaeth, cyn cymharu taliadau gofalwyr maeth.

Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am y cymorth maethu a’r gwobrau rydyn ni’n eu cynnig.

fostering mural in Merthyr

lwfans gofal maeth

ydy gofalwyr maeth yn cael eu talu?

Ydyn, mae gofalwyr maeth yn derbyn taliad i dalu costau gofalu am blentyn.  Bydd y swm hwn yn amrywio ar sail sawl ffactor, gan gynnwys

  • faint o blant rydych chi’n eu maethu
  • oedran y plant
  • ac ers pryd rydych chi wedi bod yn maethu

Fodd bynnag, dyw bod yn ofalwr maeth ddim yn swydd gonfensiynol. Nid yw’n ffitio mewn bocs. Mae’n alwedigaeth fedrus 24-7 gartref rydyn ni’n eich cefnogi’n ariannol i’w gwneud.

Yn Maethu Cymru mae’n bwysig i ni bod plant yn cael popeth sydd ei angen arnyn nhw i ffynnu, felly rydyn ni’n rhannu’r taliad yn 3 ran: y lwfans plant wythnosol + ffi’r gofalwr + taliadau ychwanegol.

lwfans plentyn

Ym Merthyr, taliad lwfans y plentyn yw £205-£255 yr wythnos, yn dibynnu ar oedran y plentyn. Mae’r rhan hon o’r taliad yn cael ei rhoi at ddiben penodol prynu unrhyw beth sydd ei angen ar y plentyn, fel bwyd, dillad neu nwyddau ymolchi ynghyd â thalu biliau cartref ychwanegol.

ffi gofalwr maeth

Mae ffioedd yn cael eu talu ar ben lwfansau i gydnabod amser, sgiliau a phrofiad gofalwr maeth. Ym Merthyr, mae ein gofalwyr maeth yn cael ffi uwch o £250 y plentyn yr wythnos.

taliadau ychwanegol

Ym Merthyr, rydym hefyd yn darparu taliad am gostau milltiroedd, ac, yn dibynnu ar y sefyllfa, rydym yn darparu offer fel dodrefn ystafell wely babanod neu blant yn ôl yr angen.

ein hymrwymiad i chi

Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi cytuno i'r hyn rydyn ni'n ei alw'n 'Ymrwymiad Cenedlaethol'. Mae hwn yn becyn y cytunwyd arno o hyfforddiant, cefnogaeth a gwobrau sy'n cael ei fwynhau gan bob un o'n gofalwyr maeth yng Nghymru.

a group of people on the steps of the civic centre in Merthyr

eich tîm maethu lleol ym Merthyr

Dydych chi ddim allan yna ar eich pen eich hun.  Mae gennych dîm i’ch cefnogi a’ch annog, bob cam o’r ffordd.

Mae cymorth ar gael ar unrhyw adeg – nid o fewn oriau swyddfa yn unig. Rydym wedi ymrwymo i weithio fel tîm gyda’n gofalwyr maeth, ac mae hynny’n golygu bod wrth law 24/7.  Beth bynnag sydd ei angen arnoch, pryd bynnag y bydd ei angen arnoch, byddwn ni yno.

Foster Wales Merthyr social workers

gweithiwr cymdeithasol maethu ymroddedig

Bydd gennych weithwyr cymdeithasol proffesiynol medrus a phrofiadol wrth law, gydag aelod o’r tîm maethu sydd wedi ymrwymo i’ch cefnogi chi, eich teulu a’ch rhwydwaith.

Mae eich tîm Maeth Cymru yn rhan o’r awdurdod lleol, gan weithio ochr yn ochr â gweithiwr cymdeithasol y plentyn. Mae hyn yn golygu mynediad at wybodaeth am y plentyn ac adrannau gwasanaethau cymdeithasol eraill a chysylltiadau gwaith agosach â gweithwyr cymdeithasol plant.

Foster wales merthyr coffee support

cymorth cyfoedion

Byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i ddigwyddiadau a gweithgareddau i ddod â chi’n agosach at deuluoedd maeth eraill. O gefnogaeth coffi i gyfarfodydd awyr agored yn yr haf. I gyd yn helpu i roi profiadau newydd, cyfeillgarwch newydd ac atgofion newydd i chi.

Mae gofalwyr maeth arloesol profiadol wrth law i’ch cefnogi, ac mae grŵp Facebook a WhatsApp preifat pwrpasol ar gyfer ein gofalwyr hefyd.

Foster Carer consultation event

cyfleoedd dysgu

Mae ein fframwaith dysgu a datblygu wedi’i brofi, wedi’i ddatblygu gyda gofalwyr maeth ac yn gyson ledled Cymru. Mae cyrsiau hyfforddi lleol yn ffordd wych o gwrdd â gofalwyr maeth eraill, ac rydym yn cynnig adnoddau, offer a ffyrdd eraill o ddysgu hefyd.

Lady in a black and white striped cardigan sat at a table with branded merchandise for Foster Wales Merthyr Tydfil

mwy o gwestiynau am gymorth ariannol?

Byddwn yn rhannu ac yn esbonio'r holl gymorth y gallwch ei gael. I gael dadansoddiad llawn o'r lwfansau maethu lleol a'r cymorth ariannol yr ydym yn ei gynnig, gofynnwch am becyn gwybodaeth.

gofyn am becyn gwybodaeth

cymorth arall a gwobrau

Icon of tickets/passes

pàs hamdden

Aelodaeth hamdden am ddim i’r gofalwr maeth a’i deulu cyfan, sy’n golygu eu bod yn gallu defnyddio campfeydd, dosbarthiadau a phyllau nofio’r Awdurdod Lleol. Hefyd parcio cyngor am ddim ym Merthyr.

House icon

cymhelliant y Dreth Gyngor

Bydd yr holl ofalwyr maeth cymeradwy gyda Maethu Cymru Merthyr Tudful sy’n cael lwfans ychwanegol yn cael taliad cymhelliant o 50% tuag at eu bil treth gyngor.

people icon

arloeswyr gofal maeth

Mae rhai o’n gofalwyr maeth profiadol wedi ymgymryd â hyfforddiant ychwanegol er mwyn cefnogi a mentora gofalwyr maeth eraill. Nhw yw ein gofalwyr maeth Arloeswyr ac mae’n debyg y bydd o leiaf un ohonyn nhw wedi profi’r hyn rydych chi’n mynd drwyddo.

icon of person speaking

dweud eich dweud

Rydym yn cynnal digwyddiadau ymgynghori lle mae pob gofalwr maeth yn cael gwahoddiad. Rydym yn eich annog i ddweud eich dweud, rhoi adborth a helpu i lunio ein gwasanaeth maethu ym Merthyr. You are a valued and respected member of our fostering community.

social activities icon

gweithgareddau cymdeithasol

Cylchlythyrau rheolaidd a chyfarfodydd grwpiau cymorth i gadw mewn cysylltiad. Hefyd gweithgareddau cymdeithasol i’r teulu cyfan drwy gydol y flwyddyn, o drochi mewn pwll, i ddigwyddiadau pobi, i wneud pitsa! Mae gennym ni ddigwyddiad dathlu gofalwyr maeth blynyddol hefyd.

Learning icon

cyfleoedd hyfforddi

Ystod eang o gyfleoedd dysgu a datblygu sy’n cael eu darparu mewn ffyrdd hyblyg gan gynnwys e-ddysgu, podlediadau, deunyddiau darllen a gweithdai, gyda swyddog hyfforddi amser llawn yn arbennig ar gyfer ein gofalwyr maeth ni.