Wrth ystyried maethu, efallai y byddwch weithiau’n meddwl: ‘beth mae gofalwyr maeth wir yn ei feddwl am eu gweithwyr cymdeithasol?’
Yma yn Foster Wales Merthyr, gallem ddweud wrthych ein bod yn gwneud ein gorau glas i adeiladu perthnasoedd cryf a dibynadwy gyda phawb sy’n rhan o faethu. Gallem ddweud ein bod yn gwerthfawrogi ac yn parchu pob unigolyn sydd wedi ymrwymo i helpu’r plant yn ein gofal. Gallem hyd yn oed ddweud wrthych fod ein gweithwyr cymdeithasol yn gwneud mwy na’r disgwyl i sicrhau bod ein gofalwyr maeth yn teimlo’n cael eu cefnogi ac ein bod ni i gyd yn rhan o’r un tîm.
Ond pam gwrando arnom ni, pan fo gennym ofalwyr maeth mor wych sy’n gallu esbonio eu hunain?
Llythyr gan Sam – gofalwr maeth yn Merthyr – am ei gweithiwr cymdeithasol goruchwylio

Helo,
Yn y bron 17 mlynedd o faethu gyda Gwasanaethau Cymdeithasol Merthyr Tudful rydym wedi cael rhai gweithwyr cymdeithasol goruchwylio gwych… wirioneddol.
Ond eleni mae rhai o’n profiadau wedi gwneud i ni sylweddoli pa mor bwysig yw cael gweithiwr cymdeithasol goruchwylio gwych a phrofiadol sy’n cymryd yr amser i arsylwi ac adnabod eich teulu, a’r plant sydd wedi’u lleoli gyda chi.
Mewn rhai amgylchiadau eleni rwy’n teimlo bod ein gweithiwr cymdeithasol wedi mynd gam ymhellach yn ei rôl, ac rwy’n teimlo bod hynny wedi fy helpu i aros yn gadarn ac yn ganolog.
Mae hi wedi mynd allan o’i ffordd i’m helpu’n gorfforol gyda phethau ac mae hi bob amser ar gael ar y ffôn hefyd.
Mae pob un o’m plant a’r bobl ifanc yn hynod gyfforddus yn ei phresenoldeb ac yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a’u cefnogi. Rwyf innau’n teimlo hynny hefyd, sy’n bendant yn fy helpu i ofyn am gymorth yn hyderus os teimlaf fy mod eu hangen.
Mae ei sylw i fanylion a’i sgiliau gwrando yn rhagorol, yn ogystal â’i gwybodaeth a’i gallu i gyfathrebu’n effeithiol ac yn broffesiynol ar fy rhan weithiau gyda’r ysgol ac eraill.
Wrth i’n taith barhau bellach i fyd bendigedig y glasoed a TGAU, does dim amheuaeth y bydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol arnaf ymlaen llaw, ond rwy’n hyderus y byddaf yn ei gael yn helaeth.
Llais o glod hefyd i’r tîm ehangach! Pryd bynnag rwyf wedi ffonio i mewn, boed ar gyfer llofnodi ffurflenni brechu neu sgwrs gyflym am rywbeth roedd angen ail farn arno, rwyf bob amser wedi cael croeso a pharch, a deliwyd â’m materion yn effeithlon.
Diolch eto!
Sam

Yn Foster Wales Merthyr rydym eisiau i ofalwyr maeth lwyddo
Mae Merthyr Tudful yn gymuned agos, ac rydym nid yn unig yn falch o’r modd y mae ein gweithwyr cymdeithasol yn cefnogi ein gofalwyr maeth, ond hefyd o’r modd y mae ein gofalwyr maeth yn cefnogi ei gilydd. Rydym eisiau i’n gofalwyr maeth ffynnu, oherwydd dyna’r peth gorau a all helpu’r plant sydd ei angen fwyaf.
Yn ogystal â chefnogaeth gan ein tîm, fel gofalwr maeth yn Merthyr byddwch hefyd yn derbyn:
• 100% gostyngiad Treth y Cyngor
• Lwfansau wythnosol cystadleuol fesul plentyn
• Parcio am ddim ym mhob maes parcio Cyngor Merthyr
• Taliadau ychwanegol gwyliau a phen-blwydd
• Tîm cefnogi lleol pwrpasol
• Mynediad at ymarferwyr therapiwtig
• Hyfforddiant cynhwysfawr a chefnogaeth offer
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy am faethu, am sut y gallech ddod yn rhan annatod o’n tîm, cysylltwch â ni yma. Byddem wrth ein bodd yn cael sgwrs gyda chi.