Mae plant mewn teuluoedd maeth ym Merthyr yn chwarae rhan enfawr wrth groesawu plentyn maeth i’w cartref. Gall eu calonnau caredig, eu diolchgarwch am eu teulu eu hunain a’u synnwyr o hwyl wneud y gwahaniaeth mwyaf i blentyn sy’n symud i rywle newydd.
Mae rhai teuluoedd yn petruso i faethu oherwydd nad ydyn nhw’n siŵr o’r effaith y gallai ei chael ar eu plant eu hunain. Fodd bynnag, mae plant ein gofalwyr maeth ym Merthyr yn dweud wrthym sut mae wedi agor eu calonnau a gwneud iddyn nhw deimlo’n falch.
Sut oeddech chi’n teimlo cyn dod yn deulu maeth?
Harry – Roeddwn i’n edrych ymlaen oherwydd byddai gyda fi lawer o bobl i chwarae gyda nhw. Dywedais i wrth bawb yn fy nosbarth pan ddywedodd y Garfan Maethu gallen ni fod yn deulu cymorth. Roeddwn i’n falch o ddweud wrth fy nosbarth beth yw teulu maeth a beth rydyn ni’n ei wneud.

Alfie – Roeddwn i wedi fy nghyffroi, ac ychydig yn nerfus.
Jack- Roeddwn i’n iawn gan fy mod i wedi arfer gweld plant maeth yn y teulu oherwydd bod mam-gu a thad-cu ar y 2 ochr yn rhieni maeth.
Nell – Roeddwn i wedi fy nghyffroi oherwydd rwy bob amser wedi bod eisiau rhagor o frodyr a chwiorydd.
Sut ydych chi’n teimlo am fod yn rhan o deulu maeth?
Laila Freya and Rhys – Rydyn ni’n meddwl ei fod yn beth da i fod yn rhan ohono. Mae’n gwneud i ni deimlo’n falch ein bod ni wedi gallu gwneud gwahaniaeth i blentyn arall.
Harry – Rwy’n teimlo’n dda amdano oherwydd rwy’n hoffi helpu pobl.
Alfie- Rwy’n teimlo’n falch iawn o helpu plant eraill i deimlo’n ddiogel.

Jack – Mae’n hyfryd gweld cynnydd y plant dros y cyfnod maen nhw’n ei dreulio gyda ni cyn iddyn nhw symud ymlaen.
Nell – Mae’n teimlo fel ein teulu arferol gyda pherson ychwanegol ynddo.
Sut ydych chi’n croesawu plentyn maeth i’ch cartref a’ch teulu?
Laila Freya ac Rhys – Rydyn ni’n hoffi dangos y tŷ iddyn nhw fel eu bod nhw’n gwybod ble mae pethau, fel ble mae’r byrbrydau a’r diodydd a ble mae’r teganau’n cael eu cadw.
Harry – Pan maen nhw’n dod i’n tŷ ni gyntaf ac mae Mam yn siarad â’r holl oedolion, rwy’n eu dangos o gwmpas y tŷ. Rwy’n dechrau gyda’u hystafell wely ac yna’n dangos iddyn nhw ein holl deganau gallan nhw chwarae gyda nhw, a’n drôr byrbrydau.
Alfie – Rwy’n gadael iddyn nhw rannu fy nheganau a gwylio rhaglenni teledu gyda mi.
Jack – Mae’r plant sydd wedi dod aton ni yn y gorffennol wedi bod yn fechgyn ac maen nhw’n hoffi pêl-droed felly rwy bob amser yn treulio amser ar y glaswellt gyda’r bêl yn gwneud iddyn nhw deimlo’n gyfforddus neu’n gofyn iddyn nhw beth maen nhw’n mwynhau ei wneud, lle bydda i’n yn siarad â nhw am eu hobïau a’u diddordebau.
Nell – Rwy’n treulio mwy o amser i lawr y grisiau gyda fy nheulu yn hytrach nag yn fy ystafell wely ac yn ceisio sgwrsio â nhw ac eistedd gyda nhw i wylio’r teledu.
Beth yw’r peth gorau am faethu?
Laila Freya ac Rhys – Rydyn ni wrth ein bodd yn cadw mewn cysylltiad â nhw a’u gweld nhw’n tyfu; maen nhw fel brodyr a chwiorydd bach i ni.

Harry – Rwy wrth fy modd yn dangos ac yn helpu’r plant i ddysgu pethau newydd fel brwsio ein dannedd gyda’n gilydd neu ddysgu rhifau. Rwy hefyd yn hoffi darllen straeon iddyn nhw.
Alfie – Cael rhywun i chwarae gyda nhw bob amser.
Jack – Gwybod eu bod nhw mewn lle diogel, cynnes a gofalgar mewn amgylchedd teuluol sy’n gallu dangos cariad iddyn nhw.
Nell – Rwy’n hoffi cynnwys plant yn y pethau syml rydyn ni fel arfer yn eu gwneud fel chwarae gêm, gwylio ffilm neu eistedd o gwmpas yn siarad a dweud jôcs wrth ein gilydd.

Sut mae gwybod eich bod chi’n helpu plant eraill yn gwneud i chi deimlo?
Harry – Mae’n gwneud i mi deimlo’n lwcus ac yn bwysig iawn.
Alfie – Yn falch yn gwybod fy mod i’n helpu.
Jack – Yn falch iawn o fod yn rhan dda o’u taith bywyd, yn creu atgofion hapus iddyn nhw, gan obeithio byddan nhw’n meddwl amdanon ni mewn ffordd gadarnhaol pan fyddan nhw’n hŷn.
Nell – Dydw i ddim yn teimlo fy mod i’n gwneud unrhyw beth arbennig, dim ond sut rwy’n trin pawb a sut mae pawb yn haeddu cael eu trin yw e.
Oes unrhyw beth arall hoffech chi ei rannu ynglŷn â sut rydych chi’n teimlo am faethu?
Laila Freya and Rhys – Rydyn ni’n meddwl bod maethu yn dda ond mae wedi bod yn anodd weithiau. Mae’n llawer o newid ac mae rhaid i ni rannu mam a dad, ac yn y pen draw mae rhaid i ni ffarwelio â’r plant, sef y rhan anoddaf.
Harry – Rwy’n meddwl ei bod hi’n bwysig cael mwy o oedolion i helpu i gadw plant yn ddiogel ac yn iach. Rwy wrth fy modd yn maethu ac yn cwrdd â llawer o ffrindiau newydd.
Nell – I unrhyw un sy’n ystyried maethu, byddwn i’n ei argymell. Mae’n werth chweil ac yn braf meddwl gallech chi fod yn gwneud gwahaniaeth bach, ac mae’n gwneud i chi sylweddoli pa mor lwcus ydych chi.
A chithau’n rhiant maeth, sut mae eich plant eich hunain wedi addasu i fod mewn teulu maeth?
Sarah – Rwy’n meddwl bod Harry wedi ymdopi’n arbennig o dda. Roeddwn i’n poeni ychydig ar y dechrau am fy mod i’n fam sengl, a sut fyddai Harry yn teimlo am rannu popeth – o’i fam i’w gartref a’i ofod ei hun. Mae H wrth ei fodd yn maethu. Mae e mor garedig a gofalgar ac mae’n mwynhau cael cwmni. Pan does neb gyda ni mae’n colli’r prysurdeb yn y tŷ.

Rob – O’n safbwynt ni, maen nhw wedi addasu’n dda iawn. Mae’n rhywbeth sydd wedi dod yn eithaf naturiol oherwydd bod ein 2 riant yn rhieni maeth. Mae bob amser wedi bod yn rhywbeth rydyn ni wedi dweud ein bod ni eisiau ei wneud yn y dyfodol, ac fe wnaethon ni aros tan yr amser iawn i ni i gyd. Mae oedran y plentyn sy’n cael ei leoli yn ffactor pendant i ni, achos pan rydyn ni wedi cael babanod a phlant iau maen nhw’n ymddangos eu bod nhw wedi ffitio’n well i’n cartref na phlant sy’n hŷn na’n mab ieuengaf, sy’n 9 oed.
Jo / James – Maen nhw’n amlwg wedi bod yn rhan o’r daith o’r cychwyn cyntaf ac wedi bod yn rhan o’r holl benderfyniadau. Drwy gyfarfod â’n gweithiwr cymdeithasol maen nhw wedi dysgu ar hyd y ffordd sut mae angen iddyn nhw addasu pethau bach yn eu harferion o ddydd i ddydd i gyd-fynd â gofalu am berson ifanc maeth. Maen nhw’n cymryd ato’n hawdd ac wedi ein gwneud ni’n falch o ba mor dda maen nhw wedi croesawu person ifanc i’n cartref.
A chithau’n rhiant maeth, beth ydych chi fwyaf balch ohono am ran eich plentyn yn y broses faethu?
Leanne – Rydyn ni’n falch iawn o’r plant. Mae wedi bod yn anodd weithiau iddyn nhw ein rhannu ni fel rhieni, ond maen nhw wedi addasu’n dda iawn ac maen nhw hyd yn oed wedi dysgu ambell i beth i ni ar adegau.
Sarah – Rwy wrth fy modd yn gwylio H yn rhyngweithio â’r plant. Mae’n ofalgar iawn ac yn dwlu ar helpu’r plant i ymgartrefu yn eu harferion newydd a dysgu sgiliau newydd. Mae e wir yn deall faint o’r plant sy’n byw gyda ni sydd ddim mor ffodus ag y mae e wedi bod, a’u bod nhw wedi colli llawer o bethau oherwydd hyn.
Rob – Eu gallu i groesawu plentyn ar fyr rybudd, a’r gofal a’r caredigrwydd maen nhw’n eu dangos, ac yn parhau â’u bywyd bob dydd fel pe bai hynny’n hollol normal.
Jo / James – Rydyn ni’n fwyaf balch nad rhywbeth roedden ni eisiau ei wneud yn unig oedd hyn; roedden nhw eisiau ei wneud hefyd. Maen nhw wrth eu bodd yng nghwmni plant ifanc a bod yn rhan o’r prysurdeb. Dydyn nhw byth yn cwyno ac mae’n hyfryd gweld sut maen nhw’n rhoi croeso mor gynnes pan ddaw person ifanc i’n cartref.
Discover how fostering can help your whole family grow
Cymerwch olwg ar ein gwefan, neu cysylltwch â ni yma i ddechrau eich taith maethu awdurdod lleol gyda Maethu Cymru Merthyr.
Os ydych chi’n byw y tu allan i Ferthyr ac yn awyddus i faethu gyda’ch awdurdod lleol mewn man arall yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru