blog

Pam ein bod ni’n maethu plant yn eu harddegau

Mae Chloe yn hoff iawn o faethu plant yn eu harddegau – allech chi wneud hynny hefyd?

Mae nifer o bobl yn credu nad yw maethu plant yn eu harddegau’n addas iddyn nhw. Mae sawl rheswm dros feddwl hyn, ond pan rydyn ni’n siarad â phobl sy’n rhieni maeth i blant yn eu harddegau, maen nhw’n hoff iawn o’r hyn maen nhw’n ei wneud!

Mae dod yn rhieni maeth yn benderfyniad mawr, a rhan o’r penderfyniad hwnnw yw dewis plant o ba oed y gallech chi roi cartref cariadus iddyn nhw. Yn aml, mae pobl yn cymryd yn ganiataol y bydd plant iau wedi’u heffeithio llai gan yr angen i fod mewn gofal maeth, ond dydy hynny ddim yn wir ym mhob achos.

Ein nod yw darparu gofal a sefydlogrwydd i’n plant lleol gan sicrhau bod gyda ni rieni maeth ymroddedig. Ein blaenoriaeth yw lles a dyfodol y plant hynny sydd wir angen ein cymorth – boed yn blentyn bach, yn blentyn yn ei arddegau neu’n oedolyn ifanc!

Gan ein bod ni yn y Cyngor yn wasanaeth maethu yn eich Awdurdod Lleol, byddwn ni bob tro yn rhannu’r holl wybodaeth gyda’n rhieni maeth cyn gofyn iddyn nhw ddod yn rhieni maeth i blentyn, ond rydyn ni’n aml yn gweld bod pobl yn llai tebygol o gytuno i faethu plant yn eu harddegau.

Mae nifer o ganfyddiadau a rhagdybiaethau anghywir yn ymwneud â phlant yn eu harddegau, felly rydyn ni am rannu profiad ein rhieni maeth ym Merthyr Tudful wrth ofalu am bobl ifainc.

Siaradon ni â Chloe a’i phartner Corey sydd wedi gwybod ers peth amser eu bod nhw’n awyddus i faethu, ond wnaethon nhw erioed ystyried gofalu am blant yn eu harddegau.

Dyma bum peth mae Chloe wedi’u harsylwi o’u profiad o ddod yn rhieni maeth i blant yn eu harddegau:

  • “Roedden ni bob tro’n awyddus i fod yn rhieni maeth, ond wnaethon ni erioed ystyried maethu plant yn eu harddegau”
  • “Mae maethu plant yn eu harddegau wedi mynd y tu hwnt i’n disgwyliadau’n llwyr”
  • “Weithiau, mae cymryd cam yn ôl yn beth da”
  • “Yn ein tŷ ni, rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd yn un tîm”
  • “Mae ein plant yn eu harddegau wir yn ein gwerthfawrogi ni ac maen nhw’n ein parchu ni”

Yn y blog yma, byddwn ni’n rhannu meddyliau a phrofiadau Chloe o faethu plant yn eu harddegau trwy Maethu Cymru Merthyr Tudful.

“Roedden ni bob tro’n awyddus i fod yn rhieni maeth, ond wnaethon ni erioed ystyried maethu plant yn eu harddegau”

“Rydyn ni wedi gwybod ers amser hir ein bod ni am fod yn rhieni maeth gan fod maethu yn rhan bwysig o’n bywydau ni. Ond doedden ni erioed wedi ystyried maethu plant yn eu harddegau nes i ni dderbyn galwad ffôn un nos Fawrth yn gofyn a oedd modd i ni ofalu am ddau frawd 10 ac 12 oed – eek!! Ond dyma benderfynu mynd amdani a chytuno i ofalu amdanyn nhw…roedd hynny’n teimlo fel y peth cywir i’w wneud!”

Mae nifer o blant sydd angen cartref cariadus. Does dim modd ‘dewis’, ond mae modd i ni gael sgwrs agored am yr hyn a fyddai’n gweithio orau i chi wrth ystyried deinameg eich teulu.

“Mae maethu plant yn eu harddegau wedi mynd y tu hwnt i’n disgwyliadau’n llwyr”

“Mae dod yn rhieni maeth i blant yn eu harddegau wedi gwneud i ni edrych ar y byd mewn ffordd wahanol. Ar y dechrau, roedd pobl yn dweud wrthon ni y byddai dod yn rhieni maeth i blant yn eu harddegau yn anodd gan ein bod ni mor ifanc, ond sylweddolon ni fod hyn yn gryfder yn hytrach nag yn wendid. Dyma’r peth gorau i ni ei wneud erioed ac rydyn ni wedi dysgu mwy amdanom ni ein hunain nag erioed o’r blaen.”

Mae hi’n bwysig ystyried y mathau gwahanol o faethu mae modd i chi eu cynnig. Er enghraifft, a fyddai modd i chi roi seibiannau rheolaidd i deuluoedd maeth eraill? Ydych chi ar gael i’n cefnogi ni â gofal ar frys? A fyddai’n well gyda chi gynnig gofal maeth hir dymor? Ewch i’n tudalen mathau o faethu i weld rhagor o wybodaeth.

“Weithiau, mae cymryd cam yn ôl yn beth da”

“Gan ein bod ni’n gwpl ifanc a hamddenol, rydyn ni mewn sefyllfa dda i ddeall plant yn eu harddegau ac aros ar yr un lefel â nhw gan fod nifer o bethau cyffredin mae modd i ni eu mwynhau gyda’n gilydd. Rydyn ni wedi dysgu bod cymryd cam yn ôl yn beth da, ac mae gadael i’r plant ddod aton ni pan maen nhw’n barod yn rhan allweddol o oresgyn heriau gyda phlant yn eu harddegau.”

Mae pob plentyn yn wahanol, felly dyna pam rydyn ni’n cefnogi amrywiaeth o rieni maeth o gefndiroedd gwahanol ac yn eu trysori nhw. Mae modd i chi weithio llawn amser (ddarllenwch ragor am hyn ar dudalen Maethu Cymru Sir Fynwy), rhentu eich cartref, bod yn rhan o’r gymuned LHDTC+, a bod yn rhieni i’ch plant biolegol eich hun. Y peth pwysicaf yw eich ymrwymiad. Rhaid i chi ymrwymo i ofalu am blant sydd heb gael y dechrau gorau yn eu bywydau. Wedi hynny, byddwn ni’n sicrhau eich bod chi’n gofalu am blant sy’n addas ar gyfer eich teulu chi. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalen pwy all faethu.

“Yn ein tŷ ni, rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd yn un tîm”

“Rydyn ni’n cydweithio i oresgyn unrhyw bryderon, ac mae barn pawb yn bwysig. Mae sicrhau bod modd i bawb leisio’u barn a chael eu clywed yn rhan allweddol o gefnogi plant yn eu harddegau. Rydyn ni’n eiriolwyr ar gyfer ein plant yn eu harddegau ac maen nhw’n rhan o bob penderfyniad.”

Mae gyda ni lawer o deuluoedd maeth sydd ag amgylchiadau gwahanol, ond mae cefnogaeth ar gael iddyn nhw i gyd. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Rydyn ni’n hyrwyddo ymagwedd tîm a byddwch chi’n gweithio gyda gweithwyr cymdeithasol ymroddedig, athrawon, therapyddion, heb anghofio eich teulu a’ch ffrindiau eich hun.

“Mae ein plant yn eu harddegau wir yn ein gwerthfawrogi ni ac maen nhw’n ein parchu ni”

“Yn ddiweddar, rydyn ni wedi bod i’n noson rieni gyntaf ar gyfer C, ac roedd pob un o’i athrawon yn dweud ei fod yn ddisgybl ‘rhagorol’. Dywedodd un athro bod C yn siarad yn barchus iawn amdanon ni, ac roedd o’r farn bod hynny wedi bod yn fuddiol iawn iddo wrth ymgartrefi yn yr ysgol newydd. Mae C yn ffynnu yn yr ysgol ac rwy’ wir yn teimlo bod hynny’n adlewyrchiad o’i fywyd hapus a chyfforddus gartref”.

Yma ym Maethu Cymru Merthyr Tudful, rydyn ni am annog pobl i ddod yn rhieni maeth a/neu drosglwyddo i faethu ar gyfer Awdurdod Lleol. Bydd hyn yn golygu bod modd i ragor o blant barhau i fyw yn eu hardal leol a bydd eu carfan gymorth yn yr un swyddfa, felly bydd buddsoddiad gwell mewn gwasanaethau cymorth.

Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth trwy ddod yn rhieni maeth ar gyfer eich Awdurdod Lleol.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am ddod yn rhieni maeth ym Merthyr Tudful, cysylltwch â ni yma.

I bobl sy’n byw y tu allan i Ferthyr Tudful, am ragor o wybodaeth neu i ddod o hyd i wasanaeth maethu yn eich awdurdod lleol, ewch i https://maethucymru.llyw.cymru/.

Story Time

Stories From Our Carers