blog

Maethu i frwydro yn erbyn Syndrom y Nyth Gwag

Amcangyfrifir bod bron i 4 miliwn o bobl yn teimlo eu bod wedi colli’r ‘syndrom nyth gwag’ yn y DU. Maent yn teimlo unigrwydd, colled neu’n flin nad yw eu cartref bellach yn brysur ac nad yw eu plant eu hangen, llawn amser.

Pob blwyddyn, bydd miloedd o blant a phobl ifanc yn ymadael â’r cartref. Efallai eu bod yn mynd i’r Brifysgol, symud at ffrindiau neu bartner, at rieni eraill neu’n symud i fyw ar eu pennau eu hunain. Bydd rhai yn mynd dramor.

Dywed dwy ran o dair o oedolion eu bod wedi dioddef syndrom y nyth wag wedi i’w plant symud allan, hyd yn oed os aethant yn eu blaenau i fwynhau’r amser hwnnw gyda’i gilydd neu ar eu pennau eu hunain.

Ystadegau ynghylch Syndrom y Nyth Wag

Dengys ymchwil yn yr Unol Daleithiau yr emosiynau cymysg y gall rhieni eu profi pan fydd eu plant yn gadael cartref: 

Wrth esbonio’r teimlad, dengys ymchwil pellach fod rhieni’n teimlo fod syndrom y nyth wag yn gymysgedd o emosiynau cadarnhaol a negyddol, yn cynnwys:

  • Bod rhan ohonoch ar goll (20%)
  • Gwacter (24%)
  • Diffyg pwrpas (19%)
  • Cael eich gwrthod (16%)
  • Eich bod wedi cefnu ar blentyn (18%)
  • Bod plentyn wedi cefnu arnoch chi (22%)
  • Sylweddoliad na fydd bywyd byth yr un fath (25%)
  • Dechrau newydd (28%)
  • Cyfle i ailddarganfod eich hun (24%)
  • Cyfle i roi rhagor o amser i’ch hun (22%)
  • Cyfle i wneud pethau nad ydych wedi cael cyfle i’w gwneud o’r blaen (22%)

Yn ôl 87% o’r sawl a holwyd, roeddent yn flin nad oeddent wedi meddwl am Syndrom y Nyth Wag cyn i’w plentyn fynd i’r Brifysgol ac roedd  99% yn rhyfeddu nad yw rhieni’n siarad amdano yn agored. [Unite Group]

Beth yw syndrom y Nyth Wag?

Roeddem am ddechrau’r sgwrs ac rydym yn eich annog i’w drafod â ffrindiau a theulu. Mae’r Gofalwr Maeth, Liz yn rhannu peth o’i thaith i faethu: 

“Roedd yn amser diddorol yn fy mywyd. Am amser hir, dim ond fi a fy mab oedd yn y tŷ ond symudodd allan rai blynyddoedd yn ôl ac ef agorodd fy llygaid i faethu.

Arferai fy mab wneud sylwadau pan oedd yn iau am gael brawd neu chwaer – mae ganddo gefndryd agos, ond neb y mae wedi cydfyw â hwy. Fodd bynnag, gan fy mod yn gweithio’n llawn amser ac yn rhiant sengl, nid oeddwn yn teimlo y byddai gennyf yr amser na’r lle i ddod â phlant eraill i mewn i’m cartref.  Yn awr, wrth i mi fynd yn hŷn, rwyf mewn lle gwell. Mae gennyf ddwy ystafell wely wag, mae fy mab wedi symud allan ac mae fy oriau gwaith yn fwy hyblyg.

Roeddem bob amser yn agos iawn ond nid oeddwn yn sylweddoli cymaint y byddwn yn gweld eisiau cael fy mab gartref. . . hyd yn oed, codi ei ddillad isaf o’r llawr! Awgrymodd y dylwn wneud ymholiad â’r awdurdod lleol; cael sgwrs a gweld beth oedd yr opsiynau.

Rwyf yn awr wedi bod yn maethu ers 3 mlynedd! Dechreuais drwy gynnig arosiadau byr ar gyfer grwpiau o frodyr a chwiorydd ond rwyf yn awr yn ystyried gofal maeth mwy hirdymor. Yn bersonol, rwy’n teimlo fod maethu plant hŷn ac yn eu harddegau’n well i fy amgylchiadau gan eu bod yn yr ysgol a bod hynny’n rhoi mwy o annibyniaeth nac y byddai cael plentyn ifancach.

Mae fy mab yn gwneud jôcs o hyd y dylwn fod wedi gwneud hyn flynyddoedd yn ôl ond roedd rhaid i’r amser fod yn iawn er mwyn i mi allu darparu’r sefydlogrwydd a’r gofal sydd eu hangen arnynt.” 

Dewch i ni gael sgwrs am faethu

Mae rhai’n teimlo eu bod yn colli’r annisgwyl – y sŵn, y gwynt, y dillad brwnt ar y llawr ac os ydych chi am lenwi’r gwagle, efallai y gwnewch ystyried maethu? Rydym bob amser yn edrych am bobl all edrych ar ôl plant i ni, yn enwedig plant hŷn all lenwi’ch tŷ â sŵn, llanast a hwyl!

Pan fyddwch yn barod, edrychwch ar ein gwefan ac ar yr holl wybodaeth ynghylch maethu ac ar y tudalennau:

Gwahanol fathau o Faethu
Pwy all bod yn Ofalwr Maeth?
Cwestiynau Cyffredin

Os teimlwch ei fod yn iawn ar eich cyfer chi, llenwch y ffurflen ymholi ar ein gwefan neu ffoniwch ein tîm cyfeillgar am sgwrs ar 01443 425007.

Os ydych yn byw yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru lle mae’r holl wybodaeth ar gael a chysylltu â’ch gwasanaeth awdurdod lleol.

Story Time

Stories From Our Carers